Ysgoloriaeth Williams Salesbury
Megan Mai Cynllo Lewis
14 Ebrill 2014
Megan Mai Cynllo Lewis o Gaerfyrddin fydd y cyntaf i dderbyn Ysgoloriaeth William Salesbury y Coleg Cymraeg Cenedlaethol o £5,000.
Cynigwyd yr ysgoloriaeth am y tro cyntaf eleni gan Gronfa Genedlaethol William Salesbury i un myfyriwr astudio cwrs a gynigir yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg yn y brifysgol.
Bydd yr arian o fudd i Megan, sy’n ddisgybl yn Ysgol Bro Myrddin, yn ystod ei chyfnod yn astudio gradd Astudiaethau Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth o fis Medi ymlaen.
Ffilmio, gwirfoddoli a cherddoriaeth sy’n mynd â bryd Megan y tu hwnt i oriau ysgol. Mae wedi cynhyrchu ffilm sy’n hybu Cymreictod, mentora plant iau mewn clybiau drama ac mae’n aelod brwd o fand chwythbrennau’r ysgol.
Yn ôl Megan; ‘‘Mae’n bleser gen i dderbyn Ysgoloriaeth William Salesbury a’r cymorth ariannol hael. Hoffwn fireinio fy sgiliau ym maes drama a’r cyfryngau gyda’r gobaith o sicrhau profiad ar gyfer y dyfodol. Bydd y rhodd ariannol o gymorth dros y tair blynedd ac yn ddefnyddiol i mi fedru buddsoddi mewn adnoddau ac offer pwrpasol ar gyfer y cwrs.’’
Ychwanegodd y Parch John Gwilym Jones, Cadeirydd Cronfa Genedlaethol William Salesbury;“Diolch i bawb wnaeth gyflwyno cais ar gyfer yr ysgoloriaeth eleni. Derbyniwyd ceisiadau lu gan ddarpar fyfyrwyr o ysgolion uwchradd a cholegau addysg bellach ar hyd a lled Cymru gan gynnwys rhai gan fyfyrwyr aeddfed. Dymuniadau gorau i Megan gyda’i hastudiaethau ac edrychwn ymlaen at gynnig yr un cyfle a chefnogi darpar fyfyriwr arall yn 2015.’’
Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gorff cenedlaethol sy’n chwarae rhan allweddol wrth gynllunio, cefnogi a datblygu addysg cyfrwng Cymraeg ac ysgoloriaethau ym mhrifysgolion Cymru. Mae’n gweithio mewn partneriaeth â phrifysgolion ar draws Cymru ac yn noddi 80 o swyddi darlithio yn ogystal ag ariannu ystod o fodiwlau ac adnoddau o’r safon uchaf.
AU16414