Baromedr Myfyrwyr Rhyngwladol yn dangos boddhad uchel
Yr Hen Goleg, Prifysgol Aberystwyth
09 Ebrill 2014
Mae'r ymchwil diweddaraf gan i-Graduate yn dangos bod Prifysgol Aberystwyth yn mwynhau cyfraddau boddhad uchel iawn ymysg ein myfyrwyr rhyngwladol a myfyrwyr o’r Undeb Ewropeaidd.
Rhestrwyd Prifysgol Aberystwyth yn gyntaf yn y byd gan y myfyrwyr am "Rheoli ymchwil", yn 7fed yn y byd am “tiwtoriaid personol” (95.4%), 4ydd yn y DG am “gymorth ariannol” ac ymysg y 10 uchaf yn y byd am “ddiogelwch”.
Mae'r canfyddiadau yn seiliedig ar ddata a gasglwyd yn ystod yr hydref 2013.
Dywedodd yr Athro John Grattan, Dirprwy Is- Ganghellor Rhyngwladol a Phrofiad Myfyrwyr; “Mae Aberystwyth yn brifysgol wirioneddol ryngwladol sy’n croesawu myfyrwyr ôl-raddedig ac israddedig o fwy na 90 o wledydd. Mae'r canfyddiadau diweddaraf yn tanlinellu boddhad y myfyrwyr yma gyda’r gefnogaeth iaith a rheoli ymchwil yr ydym yn eu darparu i fyfyrwyr rhyngwladol, y croeso cynnes gwych a dderbyniant yma, a’u gwerthfawrogiad o'r amgylchedd astudio ddiogel y mae Aberystwyth yn ei gynnig.
“Mae i-Graduate yn un o nifer o astudiaethau sy’n cael eu cynnal gan Aberystwyth i asesu bodlonrwydd myfyrwyr. Mae'r wybodaeth a ddarperir yn amhrisiadwy er mwyn llywio datblygiad profiad myfyrwyr fel bod Aberystwyth yn parhau i fod yn ddeniadol i fyfyrwyr rhyngwladol mewn marchnad sy'n fwyfwy cystadleuol.”
Mae Baromedr Myfyrwyr Rhyngwladol (International Student Barometer) i-Graduate yn dilyn proses benderfynu, disgwyliadau, canfyddiadau a bwriadau myfyrwyr rhyngwladol o wneud cais tan iddynt raddio.
Mae'r canfyddiadau yn seiliedig ar adborth mwy na miliwn o fyfyrwyr a meincnodau sy'n deillio o gannoedd o brifysgolion mwyaf blaenllaw'r byd.
Crynodeb o berfformiad Prifysgol Aberystwyth yn ôl yr astudiaeth i raddedigion yn hydref 2013:
• 1af yn y byd ar gyfer " Rheoli ymchwil"
• 93.8% o fyfyrwyr rhyngwladol a'r UE yn fodlon ar “Saesneg yr Academyddion”; ymhlith y 10 uchaf yn y byd a 4ydd yn y DG
• 2il yn y DG ar gyfer sgôr boddhad uchel ar gyfer “Cymorth iaith”
• 98.0% yn fodlon gyda “Diogelwch”; ymysg y 10 uchaf yn y byd ac 2il yn y DG
• 3ydd yn y DG am “le da i fod”
• 2il yn y byd ac 2il yn y DG am “Westeiwyr cyfeillgar” (adran Byw)
• 4ydd yn y byd a 3ydd yn y DG am "Gyfarfod gyda Staff”
• 7fed yn y DG am fodlonrwydd gyda “chostau byw”
• 4ydd yn y DG am “gymorth ariannol”
• sgôr boddhad o 95.4% gyda “tiwtoriaid personol”; 7fed safle yn y byd ac 2il yn y DG
• sgôr boddhad o 95.4% gyda “Clybiau a chymdeithasau”; ymysg y 10 uchaf yn y byd a 9fed yn y DG
• Boddhad o 96.8 % gyda "Gwesteiwyr cyfeillgar”; 9fed yn y byd a 7fed yn y DG
• 2il yn y byd am foddhad myfyrwyr gyda “Ymateb i’r cynnig”
• Boddhad o 91.9% gyda’r amser a gymerir rhwng gwneud cais a derbyn cynnig am le ym Mhrifysgol Aberystwyth.
AU15014