Buddugoliaeth yn y Rhyng-Gol
Dathlu llwyddiant Aberystwyth yn y gemau Rhyng Golegol
01 Ebrill 2014
Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth oedd yn fuddugol yn y gemau Rhyng-golegol Aber -Bangor a gynhaliwyd ar ddydd Sadwrn 29 Mawrth, 2014. Bellach yn ei 8fed blwyddyn, mae Aberystwyth wedi ennill pump o’r gornestau, a Bangor tair.
Cafodd cyfanswm o 35 o gemau chwaraeon eu cynnal rhwng y ddwy Brifysgol , a gynhaliwyd yn Aberystwyth am yr ail flwyddyn yn olynol yn sgìl adnewyddu cyfleusterau chwaraeon Prifysgol Bangor.
Roedd buddugoliaeth Aberystwyth yn un gref gan iddynt ennill 22 o’r gemau a Phrifysgol Bangor 13.
Dywedodd Olivia Prewett , Swyddog Gweithgareddau yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth; “Y penwythnos hwn gwelsom fwy na 500 o fyfyrwyr yn cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn amrywiaeth o chwaraeon o rygbi traddodiadol i gystadleuaeth ddawns gyfoes, roedd rhywbeth at ddant pawb.
“Roeddwn yn hyderus y byddai Tîm Aber yn llwyddo i gadw'r tlws a chymryd y blaen yn ein cyfanswm buddugoliaethau Rhyng-golegol. Mae gennym ystod wych o glybiau chwaraeon a chymdeithasau a chefnogwyr gwych a chodwyr hwyl, ac mae’r cyfan yn cyfrannu at lwyddiant Aber.”
Mae gan Brifysgol Aberystwyth fwy na 150 o glybiau a chymdeithasau sy'n cael eu cydlynu gan dîm arobryn Swyddogion Myfyrwyr Undeb y Myfyrwyr. Mae'r Brifysgol hefyd yn gartref i un o'r cyfrannau uchaf o fyfyrwyr sy'n aelodau o gymdeithas myfyrwyr o fewn prifysgolion y Deyrnas Gyfunol.
Wrth siarad am y fuddugoliaeth, dywedodd yr Athro April McMahon: “Mae’r berthynas rhwng Prifysgolion Aber a Bangor yn un hir sefydlog, sydd, yn amlach na pheidio'n seilio ar gydweithio cadarnhaol a phartneriaethau mewn ymchwil a rhai gwasanaethau a rennir.
“Fodd bynnag , pan ddaw'n fater o weithgareddau chwaraeon , ac yn arbennig y gystadleuaeth Rhyng-Gol flynyddol,mae'r cystadlu’n ffyrnig ond iach. Rwy'n falch iawn bod Aberystwyth wedi cipio’r tlws am yr ail flwyddyn yn olynol, a hoffwn longyfarch yr holl fyfyrwyr ar yr hyn y maent wedi ei gyflawnu ym myd chwaraeon.
“Hoffwn hefyd ddiolch i'r holl fyfyrwyr, staff a gwirfoddolwyr sydd wedi cynorthwyo er mwyn sicrhau llwyddiant y gemau. Mae'r gwasanaethau ardderchog a ddarparwyd gan wirfoddolwyr Ambiwlans Sant Ioan yn sicrhau triniaeth brydlon a phroffesiynol i bob clais a chrafiad yn ystod y cystadlu brwd.”
AU13414