Robert Peston o’r BBC yn cyflwyno Darlith Gregynog
Robert Peston
31 Mawrth 2014
Bydd Golygydd Economeg y BBC a Chymrawd Prifysgol Aberystwyth, Robert Peston, yn trafod economi Prydain ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ddydd Iau 3 Ebrill.
Cynhelir y ddarlith, Have we fixed the mess - are the rich economies of the West mended, yn y Neuadd Fawr yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ac mae'n rhan o Gyfres Darlithoedd Cyhoeddus Gregynog y Brifysgol.
Mae Robert Peston, a gafodd gydnabyddiaeth eang am ei waith yn ystod argyfwng bancio Northern Rock, wedi ennill nifer o wobrau am ei newyddiaduraeth gan gynnwys Newyddiadurwr y Flwyddyn, Newyddiadurwr Arbenigol y Flwyddyn a Sgŵp y Flwyddyn (ddwywaith) gan y Gymdeithas Deledu Frenhinol, Perfformiwr y Flwyddyn gan Urdd y Wasg Ddarlledu, a Darlledwr y Flwyddyn a Newyddiadurwr y Flwyddyn gan Sefydliad Wincott.
Cyn ymuno â'r BBC bu'n olygydd gwleidyddol a golygydd ariannol y Financial Times, Golygydd y Ddinas i’r Sunday Telegraph ac yn golofnydd i’r New Statesman a'r Sunday Times.
Cyhoeddodd dri llyfr a gymeradwywyd gan y beirniaid, How Do We Fix This Mess, ei ddadansoddiad o'r diffygion yn y system ariannol ac economaidd byd-eang, Who Runs Britain?, ei gyfrol lwyddiannus ar bwy sydd ar fai am argyfwng economaidd ac ariannol 2007-9, a Brown's Britain, cofiant am Gordon Brown a dadansoddiad o lywodraeth Llafur Newydd.
Cafodd Robert Peston ei gyflwyno yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth ym mis Gorffennaf 2011. Mae hefyd yn sylfaenydd yr elusen addysg, Speakers for Schools.
Mae mynediad i ddarlith Robert Peston yn rhad ac am ddim ac mae'r digwyddiad yn agored i aelodau'r Brifysgol yn ogystal â'r cyhoedd. Bydd yn dechrau am 6pm yn y Neuadd Fawr yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ac mae’n cael ei threfnu mewn cydweithrediad â Sefydliad Materion Cymreig.
Sefydlwyd Darlith Gregynog o ganlyniad i rodd gan Miss Gwendoline Elizabeth Davies a Miss Margaret Sidney Davies, Neuadd Gregynog (Plas Dinam, Llandinam gynt). Mae Rhodd Gregynog, a wnaed ym mis Gorffennaf 1936, yn rhan o Gronfa Ymddiriedolaeth a weinyddir gan y Coleg. Mae’r cyllid blynyddol yn cael ei wario ar "hyrwyddo astudiaeth o Gerddoriaeth, Daearyddiaeth ac Anthropoleg".
Cyflwynwyd y Ddarlith Gregynog gyntaf gan Syr John Edward Lloyd ar 'Hanes Ceredigion' yn ystod y flwyddyn academaidd 1936/7.