GwobrCaisDyfeisio 2014
GwobrCaisDyfeisio 2014
21 Mawrth 2014
Mae’r rhestr fer wedi ei llunio, yr ymgeiswyr yn paratoi eu cyflwyniadau a’r beirniaid yn barod i holi’r rhai sydd yn y rownd derfynol.
Pwy fydd enillydd GwobrCaisDyfeisio 2014?
Dyddiau’n unig sydd i fynd cyn cyhoeddi enillydd GwobrCaisDyfeisio 2014 ac mae’r trefniadau munud olaf mewn llaw ar gyfer panel Ffau’r L ddydd Llun 24 Mawrth.
Gwahoddir staff a myfyrwyr i fynychu’r ‘Datguddiad Mawr’ am 4 y prynhawn yn yr Ysgol Reolaeth a Busnes, lle bydd y beirniadid yn cyhoeddi pa syniad busnes sydd cipio GwobrCaisDyfeisio 2014 a’r pecyn gwerth £20,000.
“Ychydig ddiwrnodau yn unig sydd tan Ffau’r Llewod ac mae’r cyffro i’w deimlo am ddiweddglo GwobrCaisDyfeisio 2014” dywedodd Tony Orme, Rheolwr Menter yn yr Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi .
O faes cryf, gwahoddwyd yr ymgeiswyr canlynol i gyflwyno’u syniadau i’r panel o feirniaid sy’n gyn-fyfyrwyr o Aber:
• ' Politicus ' - Dominik Wojan & Maria Meadows
• ' AlgaeBloom ' - Mick MacMonogail
• ' ByteDrive ' - Laia Manuel Viejobueno / Sam Hunt
• ' Cyclops Camerâu ' - Greg Dash
• ' Florence - Taylor ' - Lucy-Jane Norman
Mae rhagor o wybodaeth am yr ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer, gan gynnwys bywgraffiad byr a chiplun o'u syniad busnes ar gael yma: http://jump.aber.ac.uk/?cqcg
Yn dilyn diwrnod dwys o gyfweliadau Ffau’r Dreigiau ar ddydd Llun, bydd y panel o Alumni yn datgelu’r syniad busnes myfyriwr buddugol yng Nghyntedd Adeilad Rheidol, Canolfan Llanbadarn o 4 o’r gloch y prynhawn. Bydd lluniaeth ar gael gyda'r cyhoeddiad a ddisgwylir am 4.15pm .
Ymunwch â ni yno, neu dilynwch @Prifysgol_Aber #inventerprize am y diweddaraf.
Rhagor o wybodaeth:
Trefnir GwobrCaisDyfeisio gan Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi mewn partneriaeth gyda’r Adran Ddatblygu a Chysylltiadau Alumni a chyfraniadau gan gyn-fyfyrwyr drwy’r Gronfa Flynyddol 2013/14.
Aelodau’r panel fydd yn holi’r ymgeiswyr:
Jane Clayton – Mae Jane yn gyfrifydd siartredig cymwysedig ac yn Gyfarwyddwr anweithredol profiadol. Hi ar hyn o bryd yw Cadeirydd Bay Leisure Limited a Thrysorydd Sefydliad Meddygol Dewi Sant.
Donald Davies – Athro Emeritws mewn Tocsicoleg yng Ngholeg Imperial Llundain a Chyfarwyddwr Sylfaen ML Laboratories plc (deunydd fferyllol) un o'r cwmnïau biodechnoleg cyntaf i'w restru ar Farchnad Stoc Llundain.
Nigel Davies – Ar ôl graddio ac ymgymryd ag astudiaethau uwchraddedig yn Aberystwyth, bu Nigel yn gweithio am 30 mlynedd mewn technoleg gorfforaethol a busnes. Yn 2003 ef oedd cyfarwyddwr sylfaen Innoval Technology, sy'n ymgynghoriaeth yn seiliedig ar dechnoleg yn y DU, ac sydd â chleientiaid yn fyd-eang.
Peter Gradwell – Astudiodd Peter Beirianneg Meddalwedd yn Aber, gan raddio yn 2002. Tra'r oedd yn y Brifysgol sefydlodd ei gwmni cyfathrebu rhyngrwyd ei hun, Gradwell dot com Ltd sydd erbyn hyn yn cyflogi 65 o bobl ac sydd ag incwm blynyddol sydd dros £7m.
Huw Morgan - Cyn Bennaeth Bancio Busnes, Banc HSBC plc, gweithiodd Huw i HSBC am y rhan fwyaf o'i yrfa. Yn fwy diweddar roedd yn gyfrifol am Fancio Busnes a Masnachfreintio yn y Deyrnas Gyfunol.
David Sargen - David yw Partner Rheoli Derivatives Risk Solutions LLP, ymgynghoriaeth risg arbenigol sy’n darparu arbenigedd ar draws amrywiaeth eang o ddisgyblaethau o fewn y diwydiant ariannol, gyda ffocws arbennig ar y farchnad deilliadau fyd-eang.
AU12614