Prydain a chwestiwn Palestina
Yr Athro Rosemary Hollis
26 Chwefror 2014
Bydd yr Athro Rosemary Hollis, dadansoddwr blaenllaw ar faterion y Dwyrain Canol ac Athro Astudiaethau Polisi Dwyrain Canol a chyfarwyddwr Olive Tree Programme ym Mhrifysgol Dinas Llundain, yn trafod 'Prydain a Chwestiwn Palestina 1914-2014' yn y Brifysgol ar ddydd Iau 27 Chwefror.
Bydd Darlith Flynyddol Sefydliad Coffa David Davies yn dechrau am 6yh a bydd yn cael ei chynnal ym Mhrif Neuadd Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim ac yn agored i'r cyhoedd.
Dywedodd Cyfarwyddwr Sefydliad Coffa David Davies, Jan Ruzicka, “Mae hwn yn argoeli i fod yn ddatganiad mawr a chynhwysfawr ar bolisi tramor Prydain tuag at Palesteina yn ystod y ganrif ddiwethaf. Fe fydd y Ddarlith Flynyddol yn cwmpasu pwnc pwysig iawn ar gyfer Prydain, y Dwyrain Canol, a’r byd ehangach, a byddwn yn annog pawb i fod yn bresennol.”
Mae gwaith ysgrifennu, addysgu ac ymchwil yr Athro Rosemary Hollis yn canolbwyntio ar faterion gwleidyddol a diogelwch rhyngwladol y Dwyrain Canol, yn enwedig yn y Deyrnas Gyfunol, Ewrop, yr Undeb Ewropeaidd a chysylltiadau'r Unol Daleithiau gyda’r rhanbarth a dimensiynau rhyngwladol o wrthdaro rhanbarthol.
Cyn ymuno â Phrifysgol Dinas Llundain ym mis Mawrth 2008, roedd yr Athro Hollis yn Gyfarwyddwr Ymchwil yn Chatham House (y Sefydliad Brenhinol ar Faterion Rhyngwladol) am dair blynedd, gyda chyfrifoldeb cyffredinol am y gwaith ymchwil a chyhoeddiadau allanol y sefydliad, gan gynnwys llunio, ariannu, ansawdd a darpariaeth o brosiectau.
Rhwng 1995-2005, roedd yn Bennaeth Rhaglen Dwyrain Canol Chatham House, ar ôl treulio pum mlynedd mewn swydd debyg yn y Sefydliad Gwasanaethau Unedig Brenhinol ar gyfer Astudiaethau Amddiffyn.
Yn ystod y 1980au bu’n ddarlithydd mewn Gwyddoniaeth Wleidyddol a Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol George Washington yn Washington, DC, lle enillodd ei PhD mewn Gwyddoniaeth Wleidyddol gan ganolbwyntio ar Brydain a'r Dwyrain Canol.
Mae ganddi hi hefyd radd BA mewn Hanes ac MA mewn Astudiaethau Rhyfel o Brifysgol Llundain, Coleg y Brenin.
Drwy ei gwaith gyda’r Olive Tree Programme, mae’r Athro Hollis yn astudio sut y gellir defnyddio addysgu astudiaethau gwrthdaro ac ardal ar gyfer pobl ifanc mewn gwrthdaro. Yn ogystal â’i gwaith fel Gwyddonydd Gwleidyddol, mae’n ymwneud ag ymchwil ryngddisgyblaethol ar wrthdaro gyda chydweithwyr ym meysydd Seicotherapi, Anthropoleg Gymdeithasol, Diwinyddiaeth a Hanes.
AU5414