Dau artist nodedig yn arddangos yn yr Ysgol Gelf

Lithograff gan Keith Vaughan 'Y Coediwr'

Lithograff gan Keith Vaughan 'Y Coediwr'

17 Chwefror 2014

Mae arddangosfa yn cynnwys tua 50 o brintiadau, darluniau a ffotograffau gan arlunwyr Prydeinig Keith Vaughan (1912-1977) a gwaith gan Ray Howard-Jones (1903-1996), fwyaf adnabyddus am ei morluniau argraffiadol a phaentiadau o arfordir Cymru, yn dechrau heddiw (17 Chwefror) yn yr Ysgol Gelf.

Mae hon yn arddangosfa deithiol o waith gan Rose Marie (Ray) Howard-Jones a fynychodd Ysgol Gelf Slade lle cafodd ei dysgu gan Henry Tonks ac yn ddiweddarach bu’n gweithio yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu’n cofnodi’r llwytho ar gyfer D-Day ac roedd hi’n un o’r nifer fechan o artistiaid rhyfel benywaidd awdurdodedig swyddogol.

Teithiodd yn helaeth drwy Ewrop ar ôl y rhyfel a datblygodd gysylltiad agos â Chymru, yn arbennig Ynys Sgomer lle treuliodd sawl haf.  Cynhaliodd ei harddangosfa unigol gyntaf yn 1935 ac mae ei gwaith wedi ei arddangos yn helaeth ers hynny.

Mae gwaith Keith Vaughan yn archwilio’r ffigwr gwrywaidd a gofod darluniadol ac yn rhan o gasgliad o 500 o eitemau a gedwir yng nghasgliad yr Ysgol Gelf yn y Brifysgol. Ni fu’r rhan hon o gasgliad Aberystwyth yn destun arddangosfa o’r blaen.

Bu Vaughan, a oedd yn artist a ddysgodd ei hunan, yn gweithio fel athro celf yng Ngholeg y Celfyddydau Camberwell, yr Ysgol Ganolog Celf ac yn ddiweddarach yn Ysgol Slade.

Dylanwadwyd arno’n wreiddiol gan Graham Sutherland, ac roedd ei waith cynnar yn Neo-ramantaidd ei naws. Tua diwedd y 1950au, daeth ei waith yn llawer mwy abstract.

Mae’n gasgliad sylweddol o ystod eang o waith mewn gwahanol gyfryngau: darluniau ar gyfer rhai o’i gomisiynau darlunio llyfrau pwysicaf, ei arbrofion gyda phrintio, a’i ffotograffau, y mae rhai ohonynt i’w gweld yn ei ddetholiad ei hun a gyhoeddwyd yn Dick’s Book of Photographs (casglwyd tua 1939).

Mae’r llyfr llawn darluniau sy’n cyd-fynd â’r arddangosfa ac a gyhoeddwyd gan Sansom & Co, yn cynnwys tri thraethawd sy’n seiliedig ar ymchwil newydd ar Vaughan a’i gyfnod gan Dr Colin Cruise, yr Athro Robert Meyrick, Dr Harry Heuser a Dr Simon Pierse o’r Ysgol Gelf.  Noddwyd y cyhoeddiad gan Ymddiriedolaeth Derek Williams, Ymddiriedolaeth Hargreaves a Ball a Phrifysgol Aberystwyth.

Mae arddangosfa Ray Howard-Jones yn rhedeg tan 21 Mawrth 2014 ac mae arddangosfa Vaughan i fyny tan 28 Mawrth 2014.

AU6714