Galw ar fyfyrwyr entrepreneuriaid

14 Chwefror 2014

I'r rhai sydd am gymryd rhan yn y gystadleuaeth fusnes i fyfyrwyr eleni, Gwobr CaisDyfeisio, mae pythefnos ar ôl gyda chi i gyflwyno eich cynllun busnes am y cyfle i ennill gwerth gwobr hyd at £20,000. 

Mae’r gystadleuaeth, sy'n agored i bob myfyriwr (israddedig ac ôl-raddedig) ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn ei hail flwyddyn. 

Mae ceisiadau yn cael eu hannog gan unigolion neu dimau gyda dyfeisiadau, syniadau cychwyn busnes a chynlluniau uchelgeisiol eraill, ac mae'r gystadleuaeth wedi ei gwneud yn bosib drwy Gronfa Flynyddol Prifysgol Aberystwyth, arian a gesglir o gyn-fyfyrwyr i gefnogi nifer o brosiectau. 

Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis gan banel o arbenigwyr yn y diwydiant, tebyg i steil rhaglen Dragon’s Den, a fydd yn cynnwys saith o gyn-fyfyrwyr amlwg o Aberystwyth.

Un ohonynt fydd David Sargen, Partner Rheoli Risg Derivatives Risk Solutions LLP yn Llundain, sy’n ymuno â’r panel am y tro cyntaf. 

Am restr o aelodau'r panel, ewch i www.aber.ac.uk/inventerprize 

Jake Stainer, myfyriwr Marchnata a Sbaeneg oedd y cyntaf i ennill Gwobr CaisDyfeisio yn 2013. Jake yw creadwr ywefan dysgu iaith ar-lein, Papora www.papora.com 

Bydd y cais buddugol yn derbyn pecyn hael sy’n gynnwys cymorth a buddsoddiad gwerth hyd at £20,000 i gychwyn y busnes. Yn ogystal â hyn, bydd pob unigolyn neu dîm yn y rownd derfynol yn cael cyngor arbenigol gan banel o alumni sy’n entrepreneuriaid llwyddiannus. 

Dywedodd Tony Orme, Rheolwr Menter yn Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi Prifysgol Aberystwyth, "Mae dal amser i lenwi’r ffurflen gais ar gyfer y gystadleuaeth gyffrous yma a allai weld syniad yn troi i mewn i fenter lwyddiannus. Mae hwn yn gyfle gwych i droi syniad yn realiti a dechrau eich busnes eich hun. 

"Nid yn unig bydd yr enillydd yn derbyn cymorth ariannol, ond cefnogaeth a chymorth gan saith o unigolion gwych yn y byd busnes a fydd yn gallu rhoi arweiniad a chyngor amhrisiadwy, sydd mor hanfodol ar gyfer entrepreneur ifanc ac ar gyfer dechrau busnes.” 

Er mwyn cael y newyddion diweddaraf am y gystadleuaeth, ewch i www.aber.ac.uk/inventerprize 

Mae Gwobr CaisDyfeisioyn cael ei threfnu gan yr Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi mewn partneriaeth â Datblygu a Chysylltiadau Alumni, gyda chefnogaeth y Gronfa Flynyddol - arian a gesglir gan gyn-fyfyrwyr i helpu i ariannu nifer o brosiectau.

AU7114