Brolio am lwyddiant

11 Chwefror 2014

Bydd dau dîm o Ysgol Rheolaeth a Busnes y Brifysgol cystadlu wythnos nesaf (18 Chwefror) yng Nghystadleuaeth myfyrwyr Sefydliad Siartredig Marchnata eleni o’r enw The Pitch/Brolio.

Mae Brolio, sy’n cynnwys 12 o dimau o saith o brifysgolion a cholegau Cymru yn cystadlu, yn rhoi gyfle iddynt gyflwyno eu syniadau drwy gydol y dydd. Bydd tîm o dri ar y rhestr fer ac yn cael eu gwahodd i gyflwyno o flaen panel o arbenigwyr yn y Senedd mewn digwyddiad gyda'r nos.

Mae'r myfyrwyr wedi derbyn brîff manwl a gofynnwyd iddynt ystyried cyllidebau, negeseuon ac offer marchnata yn eu cyflwyniadau, i roi dealltwriaeth go iawn iddynt o sefyllfa busnes.

Dywedodd Julie McKeown, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu yn yr Ysgol Rheolaeth a Busnes, "Mae'r digwyddiad hwn wedi’i greu i roi cyfle i fyfyrwyr marchnata ddefnyddio eu sgiliau mewn cyd-destun busnes go iawn, a bydd yn rhoi profiad amhrisiadwy iddynt wrth fentro i’r farchnad waith gystadleuol."

Mae’r panel beirniaid yn cynnwys Jade Tambini, Rheolwr Marchnata yn DS Smith Recycling, Rhodri Thomas, Rheolwr Hyfforddiant a Datblygu yn Cynnal Cymru- Sustain Wales a'r dylunydd enwog Angela Gidden MBE.

Nod y gystadleuaeth yw denu myfyrwyr mewn ysgolion uwchradd, prifysgolion ac oedolion ifanc sydd newydd adael y system addysg ac yn ddi-waith neu nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEETs).

AU3414