Dau uwch benodiad newydd

Alwena Hughes Moakes a Louise Jagger

Alwena Hughes Moakes a Louise Jagger

03 Chwefror 2014

Penodwyd Alwena Hughes Moakes yn Gyfarwyddwr Cyfathrebu, Marchnata a Materion Cyhoeddus a Louise Jagger yn Gyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Alumni.

Ar hyn o bryd mae Alwena yn Swyddog Polisi a Gweithredol y Brifysgol, ac yn arwain Swyddfa'r Is-Ganghellor. Ymunodd Alwena, sydd wedi ennil gwobrau am ei gwaith ym maes PR, â’r Brifysgol yn 2009 ar ôl bod yn gweithio i’r asiantaeth gysylltiadau cyhoeddus o Aberystwyth, FBA. Cyn hynny bu’n gweithio i Lywodraeth Leol, y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol a’r sector breifat.

Graddiodd mewn Gwyddor yr Amgylchedd ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac mae ganddi gymhwyster MA mewn Rheolaeth Newid a Diploma Ôl-radd mewn Cysylltiadau Cyhoeddus. Mae Alwena hefyd yn gyn Lywydd Undeb Myfyrwyr y Brifysgol ac UMCA, Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth.

Wrth siarad am ei phenodiad, dywedodd Alwena: “Rwyf wrth fy modd cael fy mhenodi i'r rôl hon ac rwy'n edrych ymlaen at arwain a gwella cyfathrebu, marchnata ac agenda ymgysylltu â'r cyhoedd y Brifysgol.”

“Mae Prifysgol Aberystwyth yn sefydliad gwych, sy’n annwyl iawn i mi fel ag y mae i lawer o gynfyfyrwyr, staff a myfyrwyr.  Mae cynlluniau cyffrous ar y gweill ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda fy nghydweithwyr i hyrwyddo a dathlu llwyddiannau niferus y Brifysgol.”

Mae Alwena yn dechrau yn ei swydd ar 24 Chwefror.

Mae gan Louise Jagger fwy na 25 mlynedd o brofiad mewn codi arian yn y Deyrnas Gyfunol, ac mae wedi arwain ymgyrchoedd codi arian cyfalaf mawr, ymgyrchoedd codi arian a rhaglenni cyfrannu rheolaidd ar gyfer ystod o elusennau, gan gynnwys Scope, NCH a'r NSPCC.

Mae ei gyrfa wedi bod ar draws amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys sefydliadau treftadaeth, amgueddfeydd ac addysg. Cyfrannodd Louise hefyd at fentrau rhyngwladol ac yn y Deyrnas Gyfunol ddatblygu codi arian fel proffesiwn ac i fesur effaith y gefnogaeth ac ymgysylltiad dyngarol.

Graddiodd Louise o Brifysgol Bath lle derbyniodd radd BA mewn Astudiaethau Ewropeaidd. Yn 2013 dyfarnwyd iddi radd MSc Econ mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol o Brifysgol Aberystwyth, lle bu’n arbenigo mewn Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru a'r heriau sy’n wynebu’r sector wirfoddol yng Nghymru yn sgîl datganoli.

Ers symud o Lundain gyda’i theulu i fyw i Aberystwyth yn 2011 bu’n dysgu Cymraeg ac yn cefnogi elusen digartrefedd yng Ngheredigion, Cymdeithas Gofal / The Care Society drwy ei hymchwil MSc a thrwy raglen meithrin gallu i sefydlu rhaglen wirfoddoli.

Dywedodd Louise am ei phenodiad; “Rwyf wrth fy modd gyda’r penodiad ac yn edrych ymlaen at weithio gyda chydweithwyr ar draws y Brifysgol er mwyn ysbrydoli a chynnwys ein cyn-fyfyrwyr a’n cyllidwyr er mwyn cefnogi ein nodau strategol ac ar gyfer ymgyrchoedd mawr gan gynnwys yr Hen Coleg.

“Drwy weithio gyda'n gilydd i ddatblygu a darparu gweledigaeth ar y cyd a strategaeth ar gyfer cymorth dyngarol, byddwn yn adeiladu ar uchelgeisiau ac ymroddiad ein sylfaenwyr, yn ogystal â gweithredu fel catalydd ar gyfer creadigrwydd ac arloesedd o fewn y Brifysgol ac yn ehangach yng Nghymru, y Deyrnas Gyfunol ac yn rhyngwladol.

“Fel cyn-fyfyrwraig byddaf yn dod ag angerdd, persbectif a dilysrwydd pellach i'r rôl a fydd yn ategu fy mhrofiad proffesiynol ac rwy’n teimlo'n freintiedig iawn cael gweithio gyda chyd-gynfyfyrwyr a chyfeillion o bob cwr o'r byd yn ystod y bennod allweddol a chyffrous nesaf yn natblygiad y Brifysgol.”

Bydd Louise yn dechrau yn ei swydd newydd ar 3 Mawrth.

Croesawyd y penodiadau gan yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth. “Llongyfarchiadau cynhesaf i Alwena a Louise ar eu penodiadau. Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn i fod yn gweithio ym Mhrifysgol Aberystwyth gyda mwy na £100m yn cael ei fuddsoddi mewn cyfleusterau newydd, gan gynnwys ailddatblygu’r Hen Goleg.”

“Rwyf wrth fy modd ein bod wedi penodi dau unigolyn sydd wedi profi lwyddiant yn eu gwahanol feysydd. Byddant yn dod ag arbenigedd a brwdfrydedd mawr i gefnogi ein Cynllun Strategol uchelgeisiol a datblygu’r gwaith hanfodol o ymgysylltu â myfyrwyr y gorffennol a'r presennol, ynghyd â'r gymuned leol a'n rhanddeiliaid yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.”

AU3614