Diweddariad tywydd Prifysgol Aberystwyth
Prom Aberystwyth
31 Ionawr 2014
Yn dilyn cyngor gan Gyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Sir Ceredigion a’r rhagolygon am lanw uchel a gwyntoedd cryfion heddiw (Dydd Gwener 31 Ionawr) ac yn ystod y penwythnos, mae’r Prifysgol Aberystwyth yn cymryd camau rhagofalus i sicrhau diogelwch y myfyrwyr sy'n byw mewn Neuaddau Glan y Môr.
Mae tua 600 o fyfyrwyr yn byw mewn llety ar lan y môr. Mae tua 450 o fyfyrwyr yn byw yn llety'r Brifysgol a'r gweddill yn y sector preifat.
Mae'r Brifysgol wedi hysbysu’r holl fyfyrwyr sy'n byw yn llety'r Brifysgol ar lan y môr y bydd y preswylfeydd hyn yn cau am 4.00pm heddiw nes y clywir yn wahanol.
Mae myfyrwyr sy'n byw yn ardal glan y môr sydd wedi’i effeithio yn cael cynnig llety a phrydau bwyd ar gampws Penglais y Brifysgol a chymorth gyda threfniadau teithio, os ydynt yn dymuno teithio adref neu o Aberystwyth tan i’r amodau wella.
O ystyried y nifer sylweddol o fyfyrwyr sydd wedi’i heffeithio ac i sicrhau bod yr holl fyfyrwyr yn cael eu trin yn deg, mae gweithgareddau dysgu heddiw a dydd Llun 3 Chwefror wedi cael eu canslo.
Cynghorir myfyrwyr sydd angen cymorth ar frys i gysylltu â llinell argyfwng y Brifysgol ar 01970 622900.
Mae'r wybodaeth ddiweddaraf ar gael ar wefan y Brifysgol http://www.aber.ac.uk/cy/important-info/notices/ ac ar dudalen Facebook www.facebook.com/aberystwyth.university a chyfrif twitter y Brifysgol: www.twitter.com/prifysgol_aber.
Mae'r Brifysgol yn monitro'r sefyllfa ac yn gweithio'n agos gyda Chyngor Sir Ceredigion a Chyfoeth Naturiol Cymru.
Meddai Rebecca Davies, Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Gwasanaethau Myfyrwyr a Staff yn egluro: “Ein blaenoriaeth yw diogelwch ein myfyrwyr a'n staff. Mae'r gwyntoedd cryfion a ragwelir ynghyd â'r llanw uchel yn debygol o wneud lan y môr yn Aberystwyth yn lle peryglus iawn y penwythnos hwn ac mae'n hollbwysig i ni bod pawb sy'n byw mewn neuaddau preswyl ar lan y môr yn cael eu lletya mewn lle arall, ac yn ddigoel.”
“Rwy'n hyderus bod ein systemau wrth gefn yn gadarn iawn (ar ôl cael cyfle i'w rhoi ar brawf ac adolygu unrhyw welliannau pellach yn ddiweddar iawn). Rydym yn ddiolchgar iawn i fyfyrwyr a staff am eu cefnogaeth a'u dealltwriaeth barhaus yn ystod amgylchiadau heriol hyn.”
AU3814