Prifysgol Aberystwyth a’r storm fawr
Prom Aberystwyth
06 Ionawr 2014
Mae myfyrwyr sy'n byw mewn neuaddau glan y môr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn gynnes ac yn glyd ac mewn llety amgen wrth i’r tywydd gwael presennol barhau.
Mae ychydig o dan 500 o fyfyrwyr yn byw yn neuaddau preswyl glan môr Prifysgol Aberystwyth. Mae llawer wedi gwrando ar gyngor y Brifysgol a ddosbarthwyd ar ddydd Gwener yr wythnos diwethaf yn gofyn iddynt oedi cyn dychwelyd i’r Brifysgol tan ganol yr wythnos hon .
Mae'r Brifysgol yn awr (Dydd Llun 6 Ionawr ) yn hysbysu'r holl fyfyrwyr sy'n byw mewn neuaddau glan môr y Brifysgol ac mewn llety preifat ar lan y môr i beidio â dychwelyd i Aberystwyth hyd nes caiff y wybodaeth ddiweddaraf ei chyhoeddi ar ddydd Mercher 8 Ionawr .
Mae tua 150 o fyfyrwyr sy'n byw ar hyn o bryd yn y neuaddau glan y môr wedi cael eu symud ac yn derbyn gofal ar hyn o bryd ar Gampws Penglais y Brifysgol. Mae hyd at 100 o fyfyrwyr sy'n byw mewn llety preifat ar lan y môr hefyd wedi cael eu heffeithio .
Mae’r myfyrwyr wedi symud o neuaddau glan y môr y Brifysgol, sef neuaddau hunan - arlwyo, hefyd wedi derbyn talebau bwyd fel y gallant brynu bwyd yn llefydd arlwyo’r Brifysgol . Mae myfyrwyr sy’n byw mewn llety yn y sector preifat ac sydd wedi eu heffeithio hefyd wedi derbyn y talebau.
Cynghorir myfyrwyr sydd angen cymorth ar frys i gysylltu â llinell argyfwng y Brifysgol ar 01970 622900.
Mae'r wybodaeth ddiweddaraf ar gael ar wefan y Brifysgol http://www.aber.ac.uk/en/important-info/notices/ ac ar dudalen Facebook www.facebook.com/aberystwyth.university a Twitter y Brifysgol: www. twitter.com/prifysgol_aber.
Ar hyn o bryd, nid yw'r Brifysgol yn credu bod unrhyw ddifrod sylweddol i neuaddau preswyl y Brifysgol ar lan y môr.
Mae'r Brifysgol yn monitro'r sefyllfa ac yn gweithio'n agos gyda Chyngor Sir Ceredigion ac Chyfoeth Naturiol Cymru.
Eglurodd Rebecca Davies, Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Gwasanaethau Myfyrwyr a Staff: “Mae ein timoedd o staff wedi bod yn cefnogi myfyrwyr sydd wedi dychwelyd i Aberystwyth ac sy'n byw yn un o'n preswylfeydd glan môr. Mae tua 150 o fyfyrwyr wedi cael eu hadleoli i brif gampws y Brifysgol lle maent yn cael eu cyflenwi â bwyd a diodydd poeth.
"Er bod y lluniau yn ddramatig, ac mae'r môr wedi golchi rhannau o'r promenâd i ffwrdd, mae ein hadeiladau yn ddiogel.
"Rydym yn ddiolchgar iawn am yr holl gefnogaeth gan fyfyrwyr, staff, Cyngor Ceredigion a'r gwasanaethau brys, ac yn falch bod ein cynlluniau argyfwng wedi gweithio. Rydym hefyd yn ddiolchgar i'r gymuned leol, ac i weithredwyr rheilffyrdd a bysiau am eu cefnogaeth wrth symud ein cymuned o fyfyrwyr, ac am yr holl negeseuon o gefnogaeth a gafwyd ar y cyfryngau cymdeithasol.