Diweddaraf am y tywydd
Prom Aberystwyth
03 Ionawr 2014
Mae gwyntoedd cryfion a thonnau uchel wedi effeithio ar Aberystwyth heddiw (03/1/14).
Mae rhagolygon am fwy o lanw uchel dros y penwythnos. Byddwch yn ofalus a byddwch yn ymwybodol bod y tonnau uchel yn beryglus os ydych yn mynd yn agos atynt. Gall y cerrig sy’n cael eu llusgo gan y tonnau a'r llifoedd cryfion achosi anafiadau difrifol.
Oherwydd problem cyflenwad trydan yn gysylltiedig â’r storm, mae Neuadd Balmoral ar gau. Mae trefniadau wedi eu gwneud i symud yr holl drigolion o Neuadd Balmoral i Dŷ Neuadd Gwerin sy’n rhan o’r llety Glan y Môr ar unwaith.
Gofynnir i drigolion Balmoral fynd i'r Swyddfa Llety ym Mhenbryn ar y prif gampws, tan 6pm heddiw. O 6pm heddiw tan ddydd Llun 9am, gellir casglu allweddi i Tŷ Gwerin o’r Dderbynfa ar Gampws Penglais.
Rydym ymddiheuro’n ddiffuant am yr anghyfleustra.
Ceir adroddiadau am gau ffyrdd a newidiadau i amserlenni trenau oherwydd llifogydd. Fe’ch cynghorir i gadarnhau’r rhagolygon tywydd a’r wybodaeth deithio diweddaraf cyn teithio:
http://www.bbc.co.uk/travelnews/midwales
http://www.metoffice.gov.uk/
http://naturalresourceswales.gov.uk/?Lang=cy
Os oes unrhyw newidiadau i weithdrefnau’r brifysgol, byddwn yn darparu diweddariadau pellach dros y penwythnos.