Enwebiadau BAFTA

Rhodri Meilir, sy'n raddedig o'r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu.

Rhodri Meilir, sy'n raddedig o'r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu.

27 Medi 2013

Dydd Sul 29 Medi, mae dau o alumni Prifysgol Aberystwyth yn wynebu ei gilydd yng nghategori actor gorau Gwobrau Cymru'r Academi Ffilm a Theledu Brydeinig (BAFTA).

Mae Michael Sheen OBE, un o Gymrodyr y Brifysgol, wedi ei enwebu am ei rôl fel yr Athro yn y cynhyrchiad uchel ei fri The Gospel of Us, y fersiwn ffilm o'r ddrama Pasiwn a berfformiwyd ledled Port Talbot yn ystod Pasg 2011.

Cafodd Michael Sheen ei gyflwyno gan yr Athro Elan Closs Stephens CBE am Gymrodoriaeth y Brifysgol yn ystod haf 2012. Mae Michael, a ddaeth i amlygrwydd wrth chwarae rôl Tony Blair yn nghynyrchiad Channel 4, The Deal, a hefyd y ffilm The Queen yn 2006, hefyd wedi derbyn nifer o Wobrau Laurence Olivier am ei berfformiadau llwyfan  a BAFTA am ei ffilmiau, a dyfarnwyd iddo OBE yn 2009.

Hefyd ar y rhestr fer ar gyfer actor gorau y mae Rhodri Meilir, un o raddedigion yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu am ei rôl fel Trefor yng nghynhyrchiad S4C, Gwlad yr Astra Gwyn. Graddiodd Rhodri mewn Drama yn 2000 ac ers hynny mae wedi chwarae nifer o rolau ar y teledu, mewn ffilm ac ar lwyfan, gan gynnwys My Family y BBC, ffilm Sky One o nofel Terry Pratchett, Hogfather, a'i rôl cameo yn Dr Who.

Wrth sôn am y rhestrau, dywedodd Dr Jamie Medhurst, Pennaeth yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu; "Rwy'n falch iawn bod dau unigolyn sydd â chysylltiadau cryf â Phrifysgol Aberystwyth ar y rhestr fer ar gyfer y wobr fawreddog hon. Byddaf i, ynghyd â llawer o aelodau’r adran, yn dilyn y digwyddiadau ar y noson, ac yn croesi bysedd y bydd naill ai Michael neu Rhodri yn cipio’r wobr."

Y trydydd i’w enwebai yn y categori ar gyfer yr actor gorau yw Mark Lewis Jones am ei ran yn Stella (Cyfres 1).

Bydd Gwobrau blynyddol Cymru yr Academi Brydeinig, sydd yn eu 22ain blwyddyn, yn cael eu cynnal yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd ar ddydd Sul 29 Medi 2013. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni llawn sêr a gynhelir gan y cyflwynydd teledu Matt Johnson a'r cyflwynydd newyddion Sian Lloyd.

Yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yw un o'r mwyaf o'i bath yn y Deyrnas Gyfunol, gyda 900 o fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig. Eleni, y flwyddyn academaidd 2013/14 mae’n dathlu ei 40fed pen-blwydd. Ceir mwy o fanylion am ddigwyddiadau dathlu’r pen-blwydd yma www.aber.ac.uk/cy/tfts.

AU35913