Llanbadarn ar agor

Blas Padarn, o bosibl gofod astudio anffurfiol a bwyty prydfertha Cymru.

Blas Padarn, o bosibl gofod astudio anffurfiol a bwyty prydfertha Cymru.

23 Medi 2013

Wedi misoedd o baratoi ac adnewyddu, heddiw daw Canolfan Llanbadarn yn gartref newydd i Athrofa Rheolaeth, y Gyfraith a Gwyddor Gwybodaeth (ARhGG) ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Yn sgil rhaglen wella a welodd fuddsoddiad o £3.5m gan y Brifysgol, i greu amgylchedd fusnes a phroffesiynol newydd ar gyfer yr Ysgol Rheolaeth a Busnes, Adran y Gyfraith a Throseddeg a'r Adran Astudiaethau Gwybodaeth, mae'r drysau yn agor am y tro cyntaf heddiw.

Mae Canolfan Llanbadarn mewn ardal hyfryd gyda gerddi hardd a digon o ardaloedd i gerddwyr, gofod gwyrdd a pharcio. Mae pum adeilad yr Athrofa yn hawdd eu cyrraedd, yn olau ac yn fywiog. Y tu mewn, mae pob un o'r adeiladau wedi cael eu had-drefnu a’u hadnewyddu ac yn cynnwys ystafelloedd dysgu sy’n cynnig yr offer diweddaraf, mannau dysgu nad ydynt yn draddodiadol, ardaloedd cymdeithasol a chyfleusterau TG, a’r cyfan yn ateb anghenion dysgu a datblygiad proffesiynol modern.

Dywedodd yr Athro Andy Henley, Cyfarwyddwr ARhGG; "Rwyf wrth fy modd ein bod bellach wedi symud i mewn i ofod sydd wedi ei adnewyddu'n llwyr, ac sy'n darparu gofod o ansawdd sy’n gydnaws â darparu profiad myfyrwyr rhagorol a phroffesiynol. Mi fydd gennym ni ofod dysgu gwirioneddol drawiadol sydd â chyfarpar o safon uchel iawn, yn ogystal â gofod dysgu cymdeithasol deniadol iawn lle gall myfyrwyr a staff gwrdd a rhyngweithio."

Diolchodd Rebecca Davies, Dirprwy Is-Ganghellor Gwasanaethau i Fyfyrwyr a Staff, am y gwaith caled a’r penderfyniad a welwyd er mwyn sicrhau fod y trawsnewid cyflawn.

"Mae hwn yn ddatblygiad gwych i'r Brifysgol, canolfan benodedig ar gyfer ARhGG a gwblhawyd drwy ymroddiad ein cydweithwyr o fewn y Brifysgol a’r contractwyr. Rwy’n diolch iddynt oll. Mae hwn yn rhan o’r newid mawr yr ydym yn buddsoddi ynddo yma ym Mhrifysgol Aberystwyth er mwyn darparu amgylchedd ymchwil, dysgu a chymdeithasol o’r radd flaenaf.”

Bydd gan Ganolfan Llanbadarn lyfrgell bwrpasol yn adeilad Thomas Parry sy’n cynnwys gwerslyfrau, cyfnodolion ac adnoddau cymorth addysgu. Bydd mynediad llawn i’r adnoddau electronaidd diweddaraf.

Bydd staff wedi eu lleoli yn y ddau brif adeilad, Adeilad Elystan Morgan ac Adeilad Rheidol. Mae yna hefyd fwyty newydd sbon, Blas Padarn, sydd, o bosibl, yn medru ymffrostio taw dyma’r man astudio anffurfiol a bwyty prydfertha yng Nghymru.

AU35313