Cyfoethogi dysgu ac addysgu
Nigel Thomas, sydd wedi bod yn cydlynu'r gwaith o ddiweddaru 34 o ystafelloedd darlithio ar gyfer y flywddyn academaidd newydd.
19 Medi 2013
Cynhelir cynhadledd fawr sy’n edrych ar ddatblygiadau mewn dysgu ac addysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth yr wythnos hon.
Mae mwy na 100 o gynrychiolwyr o bob rhan o'r Brifysgol a'r Deyrnas Gyfunol yn treulio tridiau yn ystyried yr ymchwil a methodolegau diweddaraf er mwyn cyfoethogi profiad a dysgu myfyrwyr.
Mae Pam ddylwn i Newid fy Ffordd o Ddysgu? Cyfoethogi Ymgysylltiad a Phrofiad Dysgu Myfyrwyr yn dwyn ynghyd academyddion a chydweithwyr cymorth arbenigol ar draws y Brifysgol i ystyried ystod eang o bynciau, i gyd yn ymwneud รข thema ganolog o sut i barhau i wella dulliau a thechnolegau a ddefnyddir wrth addysgu modern.
Agorwyd y gynhadledd ddydd Mercher gan yr Athro John Grattan, Dirprwy Is - Ganghellor Profiad Myfyrwyr a Rhyngwladol.
Cynhelir nifer o sesiynau, grwpiau trafod ac anerchiadau allweddol dros y tridiau nesaf. Mae’r pynciau yn cynnwys cymhelliant, y defnydd o adborth, sut y gall cyfryngau cymdeithasol gael eu defnyddio mewn cyd-destun academaidd a'r heriau a'r cyfleoedd a gynigir gan ddysgu o bell.
Daeth y prif anerchiad agoriadol gan Dr Neil Morris o Brifysgol Leeds, a oedd yn archwilio rhai o'r datblygiadau diweddar ym maes technoleg addysgol, dysgu cyfunol a dysgu ar-lein, gan ddarparu tystiolaeth o'u heffaith a'u heffeithiolrwydd er mwyn gwella dysgu, ymgysylltiad a mwynhad myfyrwyr.
Daw’r prif anerchiad dydd Iau gan Dr Vicky Gunn o Brifysgol Glasgow ar gysylltu ymchwil - addysgu cyflogadwyedd; hefyd yfory bydd Helena Linn, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cymru a Gogledd Iwerddon Academi Addysg Uwch (HEA) a Phennaeth Partneriaethau yn lansio'r Thema Cyfarwyddiadau yn y Dyfodol newydd ar gyfer yr Academi Addysg Uwch yng Nghymru: Graddedigion byd-eang: Galluogi Dysgu Hyblyg.
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi gwneud buddsoddiad sylweddol i ystafelloedd addysgu’r Brifysgol yn ddiweddar gan adnewyddu ac ailaddurno 34 o ddarlithfeydd ar draws y campws , a fydd yn barod ar gyfer y to newydd o fyfyrwyr y mis hwn.
Meddai’r Athro Grattan; "Mae buddsoddi wedi bod yn yr arfaeth ers peth amser, ond erbyn hyn mae'n realiti a bydd unrhyw un sy'n treulio ei amser neu ei hamser yn dysgu, yn gwybod yn union pa mor bwysig yw hi i fod yn gweithio mewn ystafell ddymunol ac offer da . Rydym wedi cyflawni llawer dros yr ychydig fisoedd diwethaf, gan gynnwys cyflwyno llu o dechnolegau newydd a defnydd arloesol o'r rhai presennol.
“Bydd y gynhadledd hon yn gyfle i ni ar ddechrau blwyddyn academaidd newydd, i ystyried yr hyn sy’n gwbl hanfodol i ni fel Prifysgol, sef darparu addysg o'r radd flaenaf ar gyfer ein myfyrwyr “, ychwanegodd.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu yma http://nexus.aber.ac.uk/xwiki/bin/view/Main/TEL+Conference+2013