“Hac” gyda’r hwyr i ddatblygwyr apiau

iOSDev

iOSDev

04 Medi 2013

Bydd datblygwyr apiau o bob cwr o’r byd yn mynychu “hac” gyda’r hwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth ar nos Iau 5 Medi.

Bydd yr hac saith awr, a fydd yn dechrau am 5 o’r gloch yr hwyr ac yn gorffen am ganol nos, yn gyfle i ddatblygwyr apiau i fynd ati i greu dyfeisiadau deallus gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf sydd â’r gallu i gynnig atebion ymarferol i broblemau yn y byd go iawn.

Bydd y datblygwyr yn ail ymgynnull fore Gwener am bedair awr ac yna bydd y timoedd yn arddangos eu cynnyrch a bydd gwobrau yn cael eu cyflwyno am y ‘Syniad Gorau’ a’r ‘Datblygiad Gorau’.

Trefnydd yr hac yw’r Athro Chris Price o Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth: Dywedodd; “Un o’r meysydd mwyaf diddorol ym maes rhaglenni ar gyfer yr iPhone ar hyn o bryd yw siarad gyda dyfeisiadau bychain, boed nhw’n oriorau smart, teclynau cyfri camau, signalau lleoliad, teclynau cyfri curiad neu hyd yn oed sustemau gwresogi/awyru’r cartref.

“Mae dewis eang o ddyfeisiadau ar gael, megis y cyfrifiadur bychan Ardunio y byddwn yn ei ddefnyddio ddydd Iau, y gall pobl eu defnyddio i adeiladau eu dyfeisiadau deallus eu hunain, boed y rheini yn rhai arbrofol, neu wedi eu haddasu’n benodol ar gyfer cael eu rheoli o’u ffonau symudol. Er enghraifft, mae cydweithiwr wedi adeiladu sustem sydd yn ei alluogi i reoli system wresogi ei gartref o’i ffôn symudol.” 

“Mae’r hac yn gyfle i bobl ddod at ei gilydd er mwyn rhannu syniadau a phrofiadau a datblygu cynnyrch newydd. Pwy a ŵyr, efallai rhyw ddydd, y bydd syniad gafodd ei ddatblygu yn yr hac yma yn Aber yn dod yn boblogaidd iawn ymysg defnyddwyr iPhone a’r iPad,” ychwanegodd. 

Mae’r Hac yn rhan o gynhadledd iOSDevUK sy’n cael ei chynnal ym Mhrifysgol Aberystwyth yr wythnos hon, 3-5 Medi.

Mae mwy na 200 o ddatblygwyr meddalwedd o bob cwr o’r byd, gan gynnwys yr Ariannin a Malaysia yn mynychu iOSDevUK, sydd yn un o’r 10 cynhadledd ar iOS gorau yn 2013 i ddatblygwyr apiau ar gyfer yr iPhone a’r iPad yn ôl y blogiwr Ray Wenderlich.

Ymysg y prif siaradwyr mae Dave Addey, rheolwr gyfarwyddwr Agan - a fydd yn rhannu ei brofiadau o ddatblygu’r ap llwyddiannus UK Train Times ar gyfer defnyddwyr yr iPhone, a Matt Galloway, sefydlydd Swipe Stack - cwmni datblygu meddalwedd sydd wedi datblygu nifer o apiau ar gyfer yr iPhone ac sydd wedi ymddangos yng nghategori eithriadol gystadleuol Apple, ‘apiau gorau’.

AU32213