Llwyddiant Seicoleg

Myfyrwyr Seicoleg Aberystwyth a wnaeth gyfraniad mor bwysig tuag at sicrhau achrediad llwyddiannus yr adran gan y Gymdeithas Seicolegol Brydeinig. Credit: Gareth Hall.

Myfyrwyr Seicoleg Aberystwyth a wnaeth gyfraniad mor bwysig tuag at sicrhau achrediad llwyddiannus yr adran gan y Gymdeithas Seicolegol Brydeinig. Credit: Gareth Hall.

21 Mehefin 2013

Mae Adran Seicoleg Prifysgol Aberystwyth wedi derbyn achrediad cenedlaethol gan y Gymdeithas Seicolegol Brydeinig, (BPS) y gymdeithas ddysgedig o’r Deyrnas Gyfunol sy’n cael ei chydnabod yn rhyngwladol ac sydd yn gyfrifol am sicrhau safonau ansawdd yn y maes.

Cafodd y cyhoeddiad ei wneud yn dilyn ymweliad achredu llwyddiannus gan y Gymdeithas Seicolegol Brydeinig ar ddydd Mercher 19 Gorffennaf.

Mae gan Brifysgol Aberystwyth draddodiad hir o ragoriaeth academaidd ac mae’n ymdrechu’n barhaus i wella ei darpariaeth i fyfyrwyr, fel ag y gwnaeth drwy sefydlu a buddsoddi yn yr Adran Seicoleg bron i bum mlynedd yn ôl.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, adeiladodd yr adran enw da iddi ei hun am ansawdd ei gradd a’r gofal y mae’n ei rhoi i’w myfyrwyr. Eisoes mae wedi cyrraedd y brig yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr sydd yn cofnodi bodlonrwydd myfyrwyr â’u cyrsiau mewn prifysgolion ar draws y Deyrnas Gyfunol.

Dywedodd yr Athro Kate Bullen, Cyfarwyddwr Athrofa’r Gwyddorau Dynol: "Rydym wrth ein bodd bod ein graddau yn cael eu hachredu yn genedlaethol gan ein corff proffesiynol. Gallwn ddweud yn hyderus y bydd ein myfyrwyr yn hapus wrth astudio yma, ac y byddant hefyd yn derbyn hyfforddiant o’r safon orau mewn seicoleg, gan roi iddynt y sylfeini cywir ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol a rhagolygon swyddi da fel graddedigion Seicoleg o Brifysgol Aberystwyth.

"Mae gennym dîm sydd yn gweithio'n galed yma yn seicoleg ac maent wedi llwyddo i gyflawni’r anghenion ar gyfer derbyn yr achrediad hwn ar drothwy pumed pen-blwydd yr Adran.

"Mae pob un ohonom yn frwd iawn dros ein pwnc ac yn awyddus i rannu hyn gyda chymaint ag sydd yn bosibl o bobl. Golyga hyn ein bod yn dysgu myfyrwyr prifysgol, yn gweithio mewn ysgolion yn ogystal â chyfrannu at wyliau gwyddoniaeth a diwrnodau agored.

"Tyfodd Seicoleg yn un o’r pynciau mwyaf poblogaidd yn y Deyrnas Gyfunol ac mae ein hachrediad yn golygu y gallwn edrych ymlaen at barhau i fod yn llwyddiannus yn y maes hwn."

AU21413