Palas gwydr y planhigion
Mae lle yn nhŷ gwydr y Ganolfan Ffenomeg Blanhigion Genedlaethol ar gyfer mwy na 800 o blanhigion unigol.
19 Mehefin 2013
Ydych chi erioed wedi meddwl beth sy'n digwydd yn nhŷ gwydr ymchwil mwyaf datblygedig y Deyrnas Gyfunol?
Os felly, dewch draw i ddiwrnod agored y Brifysgol, Mynediad Am Ddim, am daith dywysedig o amgylch y Ganolfan Ffenomeg Planihigion Genedlaethol ddydd Sadwrn 22 Mehefin.
Sefydlaid y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth yng Ngogerddan, yw cartref y Ganolfan sy'n cwmpasu'r dechnoleg a’r offer diweddaraf er mwyn datblygu mathau newydd o blanhigion a chnydau.
Agorwyd y Ganolfan Ffenomeg Planhigion Genedlaethol yn swyddogol y llynedd a buddsoddwyd £6.8 miliwn ynddi. Mae’n caniatáu i arbenigwyr IBERS ddatblygu amrywiaethau newydd o gnydau a fydd yn gallu ffynnu mewn amgylchiadau heriol ynghyd a gwneud cyfraniad sylweddol i gynhyrchu bwyd yn y dyfodol.
Eglurodd yr Athro Nigel Scollan, Athro Ymgysylltu Cyhoeddus gyda Gwyddoniaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, "Mae’r arwynebedd llawr y Ganolfan yn faint tri cwrt tennis, ac mae ganddi siambrau delweddu wedi eu hawtomeiddio sy'n gallu cofnodi a hel gwybodaeth am ffisioleg planhigion ac mae yna le i hyd at 882 o blanhigion.
"Yn ogystal â bwyd mae planhigion yn darparu dillad, cynhwysion meddyginiaethol, rhaffau a cortyn, papur, boncyffion ar gyfer gwresogi a biodanwydd er enghraifft.
"Yn y gorffennol, roedd casglu’r amrywiaeth eang o wybodaeth am blanhigion yn cael ei wneud â llaw yn bennaf ac elfennau ar raddfa fach wedi eu hawtomeiddio, ond yn awr mae’r cyfleusterau gennym i gasglu llawer o ddata a gwybodaeth megis cyfraddau tyfiant a’u defnydd dŵr."
Cynhelir teithiau ar ddydd Sadwrn am 11yb, 12yp, 1yp a 2yp, ac fe allai unigolion neu deuluoedd wneud eu ffordd eu hunain i Gogerddan, neu ddal bws o Gampws Penglais am 10.45yb, 11.45yb, 12.45yp, neu 13.45yp.
Fe fydd sawl gwaith ymchwil arall yn cael ei arddangos yn IBERS ac fe fydd diod am ddim.
Mae Mynediad Am Ddim yn cael ei gynnal o 10yb-3yp ar Ddydd Sadwrn 22 Mehefin ac mae amserlen lawn o ddigwyddiadau ar gael yma www.aber.ac.uk/access-all-areas.
AU21813