Swydd newydd
Yr Athro Martin Jones
31 Mai 2013
Penodwyd yr Athro Martin Jones, Dirprwy Is-Ganghellor (DIG) ym Mhrifysgol Aberystwyth, i swydd dros Ymchwil, Cysylltiadau a Menter, ei gyhoeddi’n Gyfarwyddwr Canolfan Hyfforddi Doethuriaid y Gwyddorau Cymdeithasol y White Rose (White Rose Social Science Doctoral Training Centre).
Mae’r Ganolfan, sy’n achrededig gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), yn bartneriaeth ar draws y gwyddorau cymdeithasol ym Mhrifysgolion Leeds, Sheffield ac Efrog. Penodwyd Martin Jones hefyd i Gadair mewn Daearyddiaeth Ddynol yn Sheffield.
Ymunodd yr Athro Jones, a fydd yn dechrau yn ei swydd newydd ar ddiwedd mis Awst, ag Aberystwyth fel Darlithydd yn 1998.
Mae’n ddaearyddwr economaidd a gwleidyddol blaenllaw a bu’n Ddarllenydd, Athro, Cyfarwyddwr Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Deon y Gwyddorau Cymdeithasol, a Chyd-Gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil, Data a Dulliau Cymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD). Bu’n Ddirprwy Is-Ganghellor ac aelod o dîm Gweithredol y Brifysgol ers 2009.
Llongyfarchwyd yr Athro Jones ar ei benodiad gan yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Aberystwyth. “Ein llongyfarchiadau cynhesaf I Martin ar ei benodiad i’r swydd newydd gyffrous hon a diolch yn fawr iawn iddo am ei wasanaeth dros nifer sylweddol o flynyddoedd i Aberystwyth.”
“Cyfrannodd Martin at bob agwedd o waith y Brifysgol ac mae hefyd wedi chwarae rhan flaenllaw wrth ddatblygu’r cyswllt rhwng y Brifysgol a’r gymuned leol. Yr enghraifft orau o hyn yw’r hyn a wnaeth er mwyn datblygu’r Ŵyl Feicio Aber llwyddiannus iawn sydd newydd ei chynnal, ac sydd wedi derbyn nawdd sylweddol gan y Brifysgol.”
Dywedodd yr Athro Martin Jones: “Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cynnig cyfoeth o brofiadau rheoli gwahanol i mi, ac rwy’n ddiolchgar iawn ym mod wedi cael y cyfle i fod yn Bennaeth Adran, Deon, ac yna Dirprwy Is-Ganghellor ers 2009. Bu fy ngwaith fel Dirprwy Is-Ganghellor yn sylweddol o dan arweinyddiaeth yr Athro April McMahon a hoffwn ddiolch iddi yn bersonol am y cyfle i arwain y portffolio ymchwil. Cefais hefyd gyfrifoldebau ym maes uwchraddedigion, a fu’n allweddol wrth i mi sicrhau fy mhenodiad i swydd Cyfarwyddwr Canolfan Hyfforddi Doethuriaid y Gwyddorau Cymdeithasol y White Rose.”
Mae’r Brifysgol eisoes wedi dechrau ar broses fewnol i benodi olynydd i’r Athro Jones.
AU18913