Derbyn Alex Jones yn Gymrawd

Ch-D: Is-Ganghellor Professor April McMahon, Gwerfyl Pierce Jones, Is-Llywydd Prifysgol Aberystwyth, Alex Jones ac Pennaeth yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Dr. Jamie Medhurst.

Ch-D: Is-Ganghellor Professor April McMahon, Gwerfyl Pierce Jones, Is-Llywydd Prifysgol Aberystwyth, Alex Jones ac Pennaeth yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Dr. Jamie Medhurst.

03 Mai 2013

Dychwelodd cyflwynydd y One Show, Alex Jones i Brifysgol Aberystwyth ar ddydd Sadwrn 27 Ebrill, 2013 er mwyn cael ei derbyn fel Cymrawd o Brifysgol Aberystwyth.

Fel rhan o'i hymweliad â'r Brifysgol, cyfarfu Alex gyda myfyrwyr, staff ac aelodau o'r gymuned leol yn ystod ffug gyfweliad y One Show a sesiwn holi ac ateb dan arweiniad Pennaeth Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Dr Jamie Medhurst.

Wrth gloi ymweliad y prynhawn, cyflwynodd Dr Jamie Medhurst Alex i Is-Lywydd y Brifysgol, Gwerfyl Pierce-Jones ar gyfer derbyn y Gymrodoriaeth.

Cafodd Alex ei henwebu am Gymrodoriaeth yn ystod 2012, ond nid oedd yn gallu dod i'r seremoni oherwydd ymrwymiadau ffilmio presennol.

Dywedodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth:"Teitl Cymrawd yw'r anrhydedd uchaf posibl a ddyfernir gan y Brifysgol sy'n cydnabod unigolion nodedig sydd â chysylltiad agos ag Aberystwyth neu sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i fywyd proffesiynol neu gyhoeddus yng Nghymru.

"Roeddwn yn arbennig o falch o groesawu Alex yn ôl i Aberystwyth ac i'r Brifysgol ac i gydnabod ei llwyddiant fel unigolyn ac fel cyn-fyfyrwraig o'r Brifysgol. Bu’n hynod o hael,  gan dreulio cymaint o'i hamser gyda’n myfyrwyr a'n staff. "

Mae ei hadran wedi gweld llawer o newidiadau ers iddi fod yn fyfyriwr yma yng nghanol y nawdegau, gan gynnwys y gwaith o ddatblygu yr adeilad newydd ar Gampws Penglais.

Wrth sôn am y Gymrodoriaeth a'i thrip i Aberystwyth, dywedodd Alex: "Roedd yn bleser gwirioneddol i ymweld â'r Brifysgol ac yn anrhydedd arbennig i dderbyn y Gymrodoriaeth. Mae Aberystwyth yn lle arbennig iawn ac mae gen i atgofion gwych o fy amser yma fel myfyriwr.”

Yn ystod ei hymweliad, gofynnwyd i Alex i gymryd rhan mewn One Show ffug, gyda myfyrwyr yn cyfweld a ffilmio sioe siarad fer, ac yna sesiwn agored i fyfyrwyr a staff pan ofynnwyd i'r gynulleidfa gynnig amrywiaeth o gwestiynau.

Dywedodd Alex: "Mae bod ar y soffa arall a chael fy nghyfweld, yn hytrach na bod yn gyfwelydd yn dipyn o brofiad. Roedd y myfyrwyr yn eithriadol o dda ac roedd y cyfleusterau stiwdio cystal â rhai o stiwdios y BBC yn Llundain. "

Mae Alex yn gyn-fyfyrwraig yn y Brifysgol gan raddido gyda BA mewn Drama yn 1998. Ar ôl graddio, bu Alex yn gweithio ym myd y cyfryngau gan gynnwys fel cyflwynydd teledu plant ar gyfer S4C.

AU15213