Y fasnach mewn pobl
Yr Athro Ryszard Piotrowicz
26 Ebrill 2013
Athro yn y Gyfraith o Brifysgol Aberystwyth, Ryszard Piotrowicz, yw prif awdur astudiaeth sy'n sail ar gyfer menter fawr gan y Sefydliad ar gyfer Diogelwch a Chydweithrediad yn Ewrop (Organisation for Security and Co-operation in Europe (OSCE)) er mwyn hyrwyddo gwarchod hawliau dioddefwyr masnachu mewn pobl.
Mae'r OSCE yn un o'r cyrff hawliau dynol mawr yn Ewrop, ac mae pob gwlad Ewropeaidd, ynghyd â'r Unol Daleithiau a Chanada, yn aelod ohono.
Ar ddydd Iau 25 Ebrill, lansiodd Cynrychiolydd Arbennig yr OSCE ar Daclo’r Fasnach mewn Pobl, Maria Grazia Giammarinaro, yr astudiaeth, sy'n nodi ac yn egluro cyfrifoldeb awdurdodau gorfodi’r gyfraith i gydnabod bod pobl sydd yn cael eu masnachu yn ddioddefwyr ac na ddylent gael eu trin fel troseddwyr nac ychwaith eu cosbi am droseddau y maent yn cael eu gorfodi i’w gwneud gan eu masnachwyr.
Gall troseddau o'r fath gynnwys gwaith rhyw anghyfreithlon a chynhyrchu canabis.
Mae'r fenter, sy’n arddel y pennawd ‘Policy and legislative recommendations towards the effective implementation of the non-punishment provision with regard to victims of trafficking’ yn amlinellu sut y mae cyfraith ryngwladol sy'n bodoli eisoes ac egwyddorion sylfaenol cyfraith droseddol yn ei gwneud yn ofynnol bod dioddefwyr y fasnach mewn pobl, nad ydynt yn gyfrifol am eu gweithredoedd, yn derbyn amddiffyniad llawn gan y gyfraith, yn hytrach na chael eu cosbi am droseddau nad ydynt yn eu gwneud o’u gwirfodd.
Mae'r ddogfen yn dadansoddi sail gyfreithiol y cyfrifoldeb hwn, ac yn bwysicaf oll, yn cynnig argymhellion allweddol ar sut y mae’r llysoedd yn gweithredu’r egwyddor o beidio â chosbi.
Dywedodd yr Athro Piotrowicz: "Bydd y rhain o werth gwirioneddol i'r heddlu ac awdurdodau erlyn wrth fynd i'r afael â throseddau sy’n ymwneud â’r fasnach mewn, yn ogystal â chyfreithwyr yr amddiffyniad a Chyrff Anllywodraethol sy’n cynrychioli dioddefwyr.
Hanfod yr argymhellion yw bod pobl sydd wedi cael eu masnachu yn ddiniwed o dan y gyfraith droseddol pan fyddant yn cael eu gorfodi i gyflawni troseddau gan eu masnachwyr, oherwydd eu bod yn dioddef bygythiadau difrifol sy'n gwadu iddynt ryddid ewyllys."
Cafodd y polisi ei ddrafftio gyntaf gan Ryszard Piotrowicz a’i ddatblygu ganddo ef a'i gydweithiwr yn y OSCE, Liliana Sorrentino. Cafodd y prosiect ei lansio gan y OSCE fel rhan o'i mandad i hyrwyddo hawliau dynol pobl a fasnachwyd.
Ychwanegodd yr Athro Piotrowicz: "Y gobaith yw y bydd yr argymhellion yn cael effaith wirioneddol ar fywydau dioddefwyr y fasnach mewn pobl drwy godi ymwybyddiaeth o'r mater ymhlith awdurdodau gorfodi'r gyfraith ac egluro cwmpas eu dyletswydd i beidio ag erlyn neu gosbi’r rhai nad oes ganddynt ryddid ewyllys oherwydd eu bod wedi eu dal mewn amodau sydd gyfystyr â chaethwasiaeth.”
AU14613