Cymynrodd cyn-löwr

John Lewis (dde), mab Rhys Lewis, a Ms Brenda Dobney (chwith) yn cyflwyno siec o £10,000 i’r Athro April McMahon

John Lewis (dde), mab Rhys Lewis, a Ms Brenda Dobney (chwith) yn cyflwyno siec o £10,000 i’r Athro April McMahon

27 Chwefror 2013

Mae’r cyn-löwr a’r athro hanes, Rhys Lewis, a fu farw ym mis Gorffennaf 2012 yn 108 mlwydd oed, wedi gadael £10,000 i Lyfrgell Hugh Owen.

Graddiodd Mr Lewis o Brifysgol Aberystwyth yn 1931 ar ôl astudio Hanes a Hanes Economaidd, ac aeth ymlaen i gwblhau tystysgrif athro, hefyd yn Aberystwyth, yn y flwyddyn ganlynol.

Bydd y gymynrodd yn cael ei defnyddio i ychwanegu at y casgliad helaeth o lyfrau yn adran hanes llyfrgell y Brifysgol ac yn cael ei chydnabod ym mhob cyfrol sydd yn cael ei hychwanegu.

Bydd y rhodd o fudd i fyfyrwyr cymaint ag i academyddion yn sgil menter arloesol sy’n caniatáu i fyfyrwyr archebu llyfrau sydd yn berthnasol i’w cyrsiau, gan gryfhau ac ategu’r pryniant a wneir gan diwtoriaid.

Cafodd cymynrodd Mr Lewis ei chyflwyno i'r Brifysgol gan ei fab, John, sydd hefyd yn raddedig o Aberystwyth (BA Economeg a Daearyddiaeth 1963), a'i bartner Ms Brenda Dobney ddydd Mercher 20 Chwefror.

Mewn derbyniad yn Llyfrgell Hugh Owen y Brifysgol, dywedodd John Lewis; "Bu Aberystwyth yn ffurfiannol yn addysg fy nhad. Mwynheuodd ei amser yma yn fawr iawn, er mae'n rhaid ei bod yn anodd iawn iddo yn economaidd. Teimlai ei fod am adael rhywbeth parhaol ac mai'r ffordd orau o wneud hyn oedd cynorthwyo llyfrgell y Brifysgol."

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro April McMahon: "Rydym yn hynod werthfawrogol o gymynrodd Mr Lewis, un yr wyf yn siŵr a fydd o fudd mawr i’r myfyrwyr presennol a chenedlaethau i ddod. Mae ei stori’n wirioneddol ysbrydoledig ac yn brawf o'r hyn sydd gan addysg prifysgol i'w gynnig i fyfyrwyr aeddfed. Rwy'n arbennig o falch y bydd ein myfyrwyr hanes yn cael y cyfle i wneud rhai argymhellion ar gyfer llyfrau i'w prynu o'r gymynrodd bwysig hon."

Ganwyd Mr Lewis i deulu o löwyr ym mhentref Llangennech yn Sir Gâr, ac aeth i weithio dan ddaear yn 14 oed. Roedd yn benderfynol o wella ei hun, a mynychodd ddosbarthiadau nos tra'n gweithio ar y ffâs gan fatricwleiddio yn 1926.

Yn ystod streic gyffredinol 1926 ef oedd ysgrifennydd Ffederasiwn Glowyr De Cymru yng nghyfrinfa ei bwll a'r flwyddyn ganlynol aeth i Goleg Prifysgol Cymru Abertawe fel myfyriwr aeddfed, lle'r oedd yn gobeithio astudio i fod yn beiriannydd mwyngloddio.

Yn 1928 symudodd i Aberystwyth i astudio hanes a hanes economaidd. Ar ôl graddio yn 1931 arhosodd ymlaen am flwyddyn arall i gwblhau ei dystysgrif athro.

Parhaodd gyda'i astudiaethau tra'n gweithio fel athro yn Llundain, gan raddio gyda BSc (Econ) o'r London School of Economics yn 1938 a MSc (Econ) o'r LSE ym 1946, tra’n cyflawni dyletswyddau gyda’r Home Guard.

Ym 1949, ar ôl cyfnod yn dysgu yn Norfolk, fe'i penodwyd yn ddarlithydd a phennaeth hanes yng Ngholeg Hyfforddiant Easthampstead Park, ger Wokingham yn Berkshire, sydd bellach yn rhan o Brifysgol Reading. Roedd yn brif ddarlithydd yno ar adeg ei ymddeoliad yn 1970.

Priododd Mr Lewis ei wraig Louise ym 1935. Bu hithau farw yn 1994. Mae'n gadael ei ddau fab, John a Peter, saith o wyrion a phump o or-wyrion.

AU4613