Datblygu apiau symudol o ymchwil

Chwith i’r Dde. Andy Hughes, Codiki Ltd; Dr Rhian Hayward, Gwasanaethau Cynghori a Masnacheiddio Prifysgol Aberystwyth; Auryn Hughes, Codiki Ltd; Dr Glyn Rowlands, Is Lywydd Prifysgol Aberystwyth University ac aelod o fwrdd Codiki.

Chwith i’r Dde. Andy Hughes, Codiki Ltd; Dr Rhian Hayward, Gwasanaethau Cynghori a Masnacheiddio Prifysgol Aberystwyth; Auryn Hughes, Codiki Ltd; Dr Glyn Rowlands, Is Lywydd Prifysgol Aberystwyth University ac aelod o fwrdd Codiki.

24 Ionawr 2013

Er mwyn gwneud y gorau o drosi ymchwil ac arbenigedd Prifysgol Aberystwyth yn apiau a gwasanaethau symudol, mae'r Brifysgol yn falch o gyhoeddi ei buddsoddiad strategol, drwy gyfrwng Cronfa Her Aberystwyth, mewn cwmni o’r Trallwng, Codiki Ltd.

Yn 2012 lansiodd y Brifysgol ddau ap llwyddiannus, farmGRAZE ar gyfer y sector ffermio a horseRATION sy’n cael ei anelu at y sector ceffylau, mewn cydweithrediad â Arkuris Ltd a CEMAS (Morgannwg).

Yn 2013, er mwyn datblygu ymhellach ac ymestyn yr elfen hon o bortffolio apiau masnachol y Brifysgol, mae'r sefydliad wedi penodi Codiki i gynorthwyo gyda dethol, datblygu a marchnata yr apiau sy’n cael eu datblygu.

Mae Codiki Ltd yn cael ei arwain gan Andy Hughes, gŵr busnes a pheiriannydd proffesiynol sydd yn Gyfarwyddwr ar Greeve Ltd, cwmni sy'n arbenigo mewn caffael data, monitro cyflwr a systemau rheoli.

Mae Andy hefyd yn uwch bartner gyda Stratra Ltd sy'n darparu cefnogaeth i fusnesau bychain ar gyfer cynllunio strategol a datblygu technoleg, ac mae'n ymwneud hefyd â'r rhwydwaith buddsoddi Xenos.

Mae cenhadaeth Codiki -  sef i weithio gyda nifer cynyddol o brifysgolion sy'n dymuno cyrraedd marchnadoedd gan ddefnyddio apiau symudol fel llwybr - yn cyd-fynd yn dda gyda nod y Brifysgol o feithrin proses broffesiynol ar gyfer datblygu apiau o syniadau ac ymchwil gan staff a myfyrwyr.  Yn benodol mae Codiki’n bwriadu adeiladu ar ei arbenigedd mewn diffinio manylion apiau yn seiliedig ar wybodaeth academaidd, rheoli prosiect a darparu apiau o ansawdd uchel ar draws lwyfannau lluosog.

Darparodd Codiki ei gynnyrch cyntaf ar ran y Brifysgol ym mis Rhagfyr 2012 – ap ar gyfer pysgota môr oddi ar arfordir Cymru yw ShoreCatch, sy’n darparu gwybodaeth am y llanw, rhagolygon y tywydd, mapiau marc, canllawiau rhywogaethau pysgod a gwybodaeth am abwyd a rigiau.

Mae ShoreCatch (www.shorecatch.co.uk) hefyd yn cynnwys Catch Genie, sy’n caniatáu i’r defnyddiwr fewnbynnu amodau pysgota lle maent yn pysgota cyn darparu rhestrau penodol o bysgod sydd ar gael i’w pysgota o dan yr amodau yma.

Datblygodd Codiki ShoreCatch drwy ddefnyddio arbenigedd Dr David Wilcockson, biolegydd môr a physgotwr môr brwd. Mae ShoreCatch ar gael ar iTunes a Google Play.

Eglurodd Dr Rhian Hayward o’r Gwasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynghori yn y Brifysgol; "Mae'r tîm Trosglwyddo Technoleg yn falch iawn o gael gweithio gyda Codiki Ltd i fasnacheiddio arbenigedd y Brifysgol yn y farchnad ffonau symudol.

"Mae'r fenter hon yn adeiladu ar y gwaith apiau sydd wedi ei wneud eisoes o fewn y Gwasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynghori a bydd yn darparu agwedd broffesiynol at ddatblygu apiau sy'n sensitif i’r her o drosi gwybodaeth academaidd yn gynhyrchion mewn amgylchedd sydd yn newid yn gyflym ac o ansawdd uchel."

Buddsoddodd Cronfa Her Aberystwyth (CHA) £15,000 yn Codiki ym mis Gorffennaf 2012. Mae CHA wedi penodi Dr Glyn Rowlands i Fwrdd Codiki ac mae aelodau eraill y Bwrdd yn cynnwys Andy Hughes a Dr Rhian Hayward.