Cadeirydd newydd Llenyddiaeth Cymru
Damian Walford Davies
26 Gorffennaf 2012
Mae Damian Walford Davies yn Athro a Phennaeth Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn y Brifysgol, yn fardd, yn feirniad llenyddol ac yn olygydd.
Dywedodd, “Mae ymgymryd â rôl Cadeirydd un o gwmnïau cenedlaethol Cymru yn fraint - ac yn sialens. Mae gan Llenyddiaeth Cymru hanes disglair eisoes; ers 1959 bu’n esblygu’n unol â newidiadau yn y byd cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol.
“Bellach, gyda Bwrdd deinamig o bobl broffesiynol sy’n arbenigo ym mhob un o’r feysydd y gall ac y dylai llenyddiaeth gyrraedd, mae ganddo’r gallu i chwarae rhan mwy dylanwadol fyth wrth adnabod, meithrin, galluogi a hyrwyddo awduron o Gymru o bob cefndir ac oedran, ac yn y ddwy iaith - yng Nghymru ac yn fyd-eang.
“Fy nod fel Cadeirydd yw sicrhau lle i’r egni radical sydd gan ein dwy lenyddiaeth mewn trafodaethau cyfoes, fel bod ysgrifennu yn fwy na dim ond pleser i nifer fechan o bobl, ond yn hytrach, ei fod yn dod yn declyn adnewyddol a thrawsnewidiol i bawb.”
AU25212