Graddio 2012

Cyflwyno Robert Peston yn Gymrawd yn ystod Seremoniau Graddio 2011.

Cyflwyno Robert Peston yn Gymrawd yn ystod Seremoniau Graddio 2011.

09 Gorffennaf 2012

Prifysgol Aberystwyth yn anrhydeddu wyth Cymrawd yn ystod Seremonïau Graddio 2012 sydd yn cael eu cynnal yr wythnos hon - dydd Mawrth 10 tan ddydd Gwener 13 o Orffennaf - yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

Cyflwynir y teitl o Gymrawd er mwyn anrhydeddu pobl adnabyddus a chanddynt gysylltiad agos â Phrifysgol Aberystwyth neu rai sydd wedi gwneud cyfraniad mawr i fywyd proffesiynol neu gyhoeddus yng Nghymru.

Cymrodyr er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth 2012 yw (yn nhrefn y cyflwyno):

Michael Sheen: Actor Cymreig o’r sgrin a’r llwyfan. Derbyniodd OBE yn 2009. Ni all Mr Sheen fynychu’r seremoni, ond dangosir ffilm fideo ohono, a chyflwynir y ffilm hon gan yr Athro Emeritws Elan Closs Stephens CBE, o’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, am 11yb ar ddydd Mawrth 10 Gorffennaf.

Alex Jones: Cyn fyfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth. Cyflwynwraig ar The One Show. Ni all Miss Jones fynychu’r seremoni, ond dangosir ffilm fideo ohoni, a chyflwynir y ffilm hon gan yr Athro Emeritws Elan Closs Stephens CBE, o’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, am 11yb ar ddydd Mawrth 10 Gorffennaf.

Yr Athro Michael Clarke: Cyn fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth. Cyfarwyddwr y Sefydliad Gwasanaethau Unedig Brenhinol. Cyflwynir Yr Athro Clarke  gan yr Athro Len Scott o’r Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol, am 3yp ar ddydd Mawrth 10 Gorffennaf.

Mark Price: Cyfarwyddwr Cyffredinol Waitrose. Cadeirydd Busnes yn y Gymuned a Chronfa Gefn Gwlad y Tywysog. Ni all Mr Price fynychu’r seremoni, ond dangosir ffilm fideo ohono, wedi’i chyflwyno gan yr Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), am 11yb ar ddydd Mercher yr 11 Gorffennaf.

Dr Jan Jaroslav Pinkava: Cyn fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth. Enillydd Oscar am ei waith animeiddio mewn ffilmiau. Cyflwynir Dr Pinkava gan yr Athro Chris Price o’r Adran Gyfrifiadureg, am 3yp ar ddydd Mercher yr 11 Gorffennaf.

Parch. John Gwilym Jones: Cyn fyfyriwr Aberystwyth. Cyn Archdderwydd Cymru. Cyflwynir y Parchedig Jones gan Gwerfyl Pierce Jones, Dirprwy-Lywydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth, am 3yp ar ddydd Iau 12 Gorffennaf.

Caitlin Moran: Darlledwraig, sylwebydd teledu a cholofnydd. Cyflwynir Ms Moran gan Rebecca Davies, Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Gwasanaethau Myfyrwyr a Staff, am 11yb ar ddydd Gwener 13 Gorffennaf.

Syr David Lloyd Jones: Un o Farnwyr Gweinyddol Cymru. Cyflwynir Syr David gan yr Athro John Williams o Adran y Gyfraith a Throseddeg, am 3yp ar ddydd Gwener 13 Gorffennaf.

AU22212