Gwobr CaisDyfeisio

Gwobr CaisDyfeisio

Gwobr CaisDyfeisio

04 Gorffennaf 2012

Mae Gwobr CaisDyfeisio yn gystadleuaeth busnes newydd a chyffrous i fyfyrwyr, ac mae’n dod i Brifysgol Aberystwyth cyn hir. 

Os oes gennych syniad am gynnyrch neu wasanaeth newydd y gallwch ei droi yn fenter lwyddiannus, peidiwch â cholli’r cyfle hwn!

“Mae Gwobr CaisDyfeisio yn gyfle gwirioneddol ac ymarferol i fyfyrwyr weithio ar syniadau gwirioneddol fentergar a’u gweld yn dwyn ffrwyth” esboniodd y Dr James Hudson, y Rheolwr Trosglwyddo Technoleg.

Anogir ceisiadau gan unigolion neu dimoedd a chanddynt syniadau am ddyfeisiau, busnesau newydd neu gynlluniau uchelgeisiol eraill. Bydd y gystadleuaeth ar agor i fyfyrwyr sy’n astudio yn Aberystwyth yn ystod 2012/13 a bydd yn cael ei lansio’n swyddogol ar ddechrau’r flwyddyn academaidd newydd. 

Bydd yr enillydd yn cael pecyn gwobr a fydd yn cynnwys cymorth a buddsoddiad gwerth hyd at £20,000 i gychwyn y busnes.  Ar ben hynny, bydd yr holl gystadleuwyr sy’n cyrraedd y rhestr fer yn cael cyngor gan banel o gyn-fyfyrwyr sydd wedi mentro’n llwyddiannus i fyd busnes. 

Fel rhan o gystadleuaeth Gwobr CaisDyfeisio, bydd Rhwydwaith Menter Aberystwyth yn cynnal amrywiaeth o weithdai a chyflwyniadau ysbrydoli a fydd ar gael i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn datblygu eu sgiliau mentro ac sy’n paratoi eu ceisiadau.

Am y wybodaeth ddiweddaraf am y gystadleuaeth, gofrestrwch i gael diweddariadau yn: www.aber.ac.uk/cy/inventerprize

Gan weithio mewn partneriaeth â Datblygu a Chysylltiadau Alumni, trefnir Gwobr CaisDyfeisio gan y Gwasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynghori (GMY) gyda chefnogaeth y Gronfa Flynyddol.

Bydd telerau ac amodau’r gystadleuaeth yn gymwys; bydd y manylion llawn ar gael yn ystod y lansiad ym mis Hydref 2012.

AU17012