Pennaeth y Gymraeg

Yr Athro Aled Gruffydd Jones

Yr Athro Aled Gruffydd Jones

27 Mehefin 2012

Mae’r academydd blaenllaw, yr Athro Aled Gruffydd Jones, wedi ei benodi yn Bennaeth ar Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth.

Cafodd y penodiad ei gadarnhau gan Gyngor Prifysgol Aberystwyth mewn cyfarfod heddiw, ddydd Mawrth 26ain o Fehefin 2012.

Mae’r Athro Jones yn Ddirprwy Is-Ganghellor Hŷn yn y Brifysgol ac yn gyfrifol am oruchwylio datblygiad darpariaeth Gymraeg ar draws y Brifysgol. Y mae hefyd yn aelod o Fwrdd Rheoli’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac yn Gadeirydd Pwyllgor Ymchwil y Coleg.

Croesawyd y penodiad gan yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth.
“Mae’r Gymraeg, yr iaith a’i diwylliant, yn gwbl greiddiol i hunaniaeth Prifysgol Aberystwyth ac rwy’n hynod falch fod Aled wedi ei benodi i arwain Adran y Gymraeg. Ers ei benodi’n Ddirprwy Is-Ganghellor yn 2005 bu’n gyfrifol am gryfhau’r Gymraeg o fewn y Brifysgol ac mae’r penodiad hwn yn gwbl gydnaws gyda’r hyn y mae wedi ei gyflawni hyd yma.”

Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd yr Athro Jones: “Rwy’n falch iawn o gael y cyfle hwn i arwain Adran y Gymraeg yn ystod cyfnod cyffrous yn natblygiad darpariaeth Addysg uwch cyfrwng Cymraeg.

“Bûm yn ymwneud â sefydlu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac rwyf yn awyddus i weld Adran y Gymraeg yn cyfrannu’n llawn at y gwaith o gryfhau’r Gymraeg led led y Brifysgol ac at adeiladu ar y ddarpariaeth academaidd, yn arbennig ymhlith ôl-raddedigion.”

“Mae’r Adran eisoes yn adnabyddus ar draws y byd am ansawdd uchel ei hymchwil, ac yr wyf yn awyddus iawn i sicrhau fod hyn y parhau yn flaenoriaeth wrth i ni gwblhau’r paratoadau ar gyfer Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014, a thu hwnt.”

Cafodd y cyhoeddiad ei groesawu gan Tammy Hawkins, Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth. Dywedodd: “Mae llwyddiant a ffyniant Adran y Gymraeg yn holl bwysig. Dyna pam rwy’n croesawu penodiad yr Athro Aled Jones. Mae ei ymroddiad i Gymreictod y Brifysgol yn ddiamheuaeth, ac yn fy amser i yma yn Aberystwyth rwyf wedi gweithio’n agos gyda fe er budd ein myfyrwyr.”

Wrth fynegi ei foddhad gyda’r penodiad, dywedodd Syr Emyr Jones Parry, Llywydd Prifysgol Aberystwyth: “Mae gan yr Athro Aled Jones bedwar amcan; datblygu ysgolheictod yn y Gymraeg, cynyddu cyfraniad Aber at y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, parhau i arwain cyfraniad sylweddol Aber i bob agwedd o fywyd a diwylliant Cymru, a dychwelyd Adran y Gymraeg i’w safle o ragoriaeth ddigymar yng Nghymru.”

Er y bydd yr Athro Jones yn parhau yn ei swydd fel Dirprwy Is-Ganghellor Hŷn, bydd yn rhoi’r gorau i rai cyfrifoldebau o fewn ei bortffolio, sef Ymchwil, Menter a Chysylltiadau Rhyngwladol, er mwyn canolbwyntio ar arwain Adran y Gymraeg.

Mae’n weinyddwr academaidd profiadol iawn gan iddo dreulio cyfnod fel Pennaeth Adran Hanes a Hanes Cymru a Deon y Dyniaethau cyn cael ei apwyntio i swydd Dirprwy Is-Ganghellor yn 2005.

Cafodd ei benodi yn Is-Lywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gynharach eleni ac mae’n aelod o Banel Hanes Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014.

Mae’r Athro Jones yn Gymrawd y Gymdeithas Hanes Frenhinol, yn gyn-olygydd Cylchgrawn Hanes Cymru, ac ef yw deilydd Cadair Hanes Cymru Syr John Williams.  

Mae’r penodiad am gyfnod o hyd at dair blynedd ac mae’r Athro Jones yn olynu'r Athro Patrick Sims-Williams.

Adran y Gymraeg

Byth oddi ar sefydlu y Coleg yn Aberystwyth yn 1872, bu Adran y Gymraeg yn cyfrannu’n loyw i ddysg a bywyd diwylliannol y genedl, ym meysydd llenyddiaeth a’r cyfryngau eraill, addysg, gwleidyddiaeth a newyddiaduraeth. Bu nifer o ysgolheigion a llenorion mwyaf nodedig Cymru yn dysgu ac yn astudio yno.

Hon yw’r Adran Gymraeg fwyaf yng Nghymru, ac mae’n dysgu’r holl rychwant o ieithoedd a llenyddiaethau Celtaidd. Yn ogystal â’r Gymraeg cynigir graddau BA mewn Gwyddeleg Iaith a Llên, Astudiaethau Celtaidd, a Chymraeg a’r Ieithoedd Celtaidd.


Y mae’n adnabyddus am safon yr ymchwil. Dyfarnwyd iddi radd uchaf un (5*A) yn Asesiad Ymchwil 2001, a’r safle ail orau (ar ôl Caer-grawnt) ym Mhrydain yn Asesiad Ymchwil 2008. Yn ôl yr Asesiad Dysgu diweddaraf roedd y dysgu yn ‘Rhagorol’.

AU21412