Y Brifysgol fwyaf diogel
Aberystwyth - lle diogel i astudio.
19 Mehefin 2012
Cafodd manylion am brifysgolion mwyaf diogel a pheryglus ar gyfer troseddau sy’n ymwneud â myfyrwyr eu cyhoeddi heddiw (Dydd Mawrth 19 Mehefin) gan y Complete University Guide.
Aberystwyth yw’r Brifysgol fwyaf diogel yng Nghymru i astudio ynddi, a’r ail yn Lloegr a Chymru.
Wedi ei llunio gan ddefnyddio data swyddogol yr heddlu, mae’r astudiaeth yn rhoi’r darlun cliriaf posibl o'r cyfraddau troseddu ar gyfer 103 o brifysgolion yng Nghymru a Lloegr.
Yn ymuno ag Aberystwyth ar frig y rhestr gyda'r cyfraddau isaf o drosedd cyffredinol mae prifysgolion Buckingham (1af) a Durham (3ydd).
Dywedodd Rebecca Davies, Dirprwy-Is Ganghellor ar gyfer Gwasanaethau Myfyrwyr a Staff y Brifysgol, "Rydym yn falch iawn gyda chanlyniad arolwg y Complete University Guide sydd yn rhoi Aberystwyth ar dop y rhestr fel y Brifysgol fwyaf diogel yng Nghymru i astudio ynddi.
"Mae yna ysbryd cymunedol ardderchog yma yn Aberystwyth. Rydym yn teimlo fod perthynas dda iawn rhwng y Brifysgol â'r gymuned; yn arbennig drwy Ganolfan y Celfyddydau, y Ganolfan Chwaraeon safonol a thrwy ein digwyddiadau ymgysylltu â gwaith ymchwil rhagorol fel y Caffi Gwyddoniaeth.
"Mae'r amgylchedd gynhwysol a diogel yn Aberystwyth yn ddiweddar wedi derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol, wrth i Aberystwyth ennill y Faner Biws am ei bywyd nos a’r modd y mae darparu “noson ddifyr, amrywiol a diogel" i ymwelwyr.
"Mae hyn yn cydnabod yr amgylchedd wych sydd gennym yn Aberystwyth, sy'n hanfodol ar gyfer ein llwyddiant ym maes boddhad myfyrwyr ac yn ein cysylltiadau busnes a chymunedol."
AU20512