Heriau polisi tramor

30 Ebrill 2012

Bydd  Cyn-gynrychiolydd Parhaol y Deyrnas Gyfunol i'r Cenhedloedd Unedig, Syr Emyr Jones Parry, yn trafod materion polisi tramor cyfoes yr Undeb Ewropeaidd a'r Deyrnas Gyfunol ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Mercher yr 2il o Fai.

Ymddeol Syr Emyr, sydd yn Llywydd Prifysgol Aberystwyth, o'r Swyddfa Dramor yn 2007.

Yn ystod gyrfa ddiplomataidd ddisglair gwasanaethodd fel Cynrychiolydd Parhaol i NATO ym Mrwsel, cadeiriodd Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig am bedwar tymor yn ogystal â chyfarfodydd yr Undeb Ewropeaidd yn ystod pum cyfnod Llywodraethol y DG rhwng 1982 a 2005.

Ymysg y materion y bu Syr Emyr yn gweithio arnynt mae ehangu NATO a’r Undeb Ewropeaidd, polisi tramor Ewropeaidd, polisi amddiffyn, Iran, Kosovo, Iraq, polisi datblygu a materion y Cenhedloedd Unedig.

Fe’i benodwyd yn Llywydd Prifysgol Aberystwyth yn 2008 a hefyd yn Gadeirydd Bwrdd Ymgynghorol Rhyngwladol Ysgol Fusnes y Brifysgol Agored, sy'n cefnogi datblygiad byd-eang yr ysgol.

Bydd y drafodaeth, sy'n ffurfio rhan o anerchiad blynyddol Canolfan Astudiaethau Ewropeaidd y Brifysgol, ar ffurf sesiwn holi ac ateb a caiff ei chynnal ym Mhrif Neuadd yr Adeilad Wleidyddiaeth Ryngwladol am 4pm.

Mae’r digwyddiad, "Heriau byd-eang a materion polisi tramor cyfoes", ar agor i staff a fyfyrwyr. Os am gyflwyno cwestiynau ymalen llaw, mae modd gwneud hynny trwy anfon  e-bost  at europeanstudies@aber.ac.uk.

AU12512