Cyd-ddealltwriaeth strategol

06 Mawrth 2012

Mae’r Gwasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynghori (CCS) yn falch o gyhoeddi bod y Rhaglen Cyd-ddealltwriaeth Strategol (SIP) bellach ar agor ar gyfer ceisiadau gan staff Prifysgol Aberystwyth sy’n awyddus i feithrin cysylltiadau â phartneriaid allanol drwy leoliadau wedi’u hariannu yn y DU.

• A fyddai treulio peth amser mewn sefydliad allanol yn eich helpu i ddeall yn well sut y gallai eich ymchwil neu’ch maes gwaith gael ei ddefnyddio mewn sefydliad neu sector diwydiant penodol, neu effeithio arno?

• A ydych yn awyddus i gyflawni gwaith cwmpasu cychwynnol gyda chwmni, sefydliad, sefydliad cyhoeddus neu gorff di-elw, neu i sefydlu neu ddatblygu perthynas gydweithredol gyda sefydliad o’r fath?

• Os felly, gallai’r Rhaglen Cyd-ddealltwriaeth Strategol ddarparu catalydd ac arian i feithrin perthynas newydd er mwyn cyfnewid gwybodaeth.

Mae’r rhaglen, sy’n cael ei chefnogi gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, yn gyfle i 15 aelod staff dreulio hyd at 50 awr gyda phartner o’u dewis ar leoliad tymor byr a gaiff ei ariannu’n llawn.

O gyflawni lleoliad SIP, bydd yn gyfle i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth, meithrin cysylltiadau newydd â sefydliad allanol er mwyn trosglwyddo gwybodaeth mewn modd sy’n fuddiol i’r ddau sefydliad, a helpu i gau’r bwlch rhwng theori ac ymarfer.

Wrth sôn am y Rhaglen Cyd-ddealltwriaeth Strategol, dywedodd Cyfarwyddwr CCS, Liz Flint: “Rydym yn falch o allu cynnig y cyfle newydd hwn i’n cydweithwyr yn Aberystwyth ac rydym yn edrych ymlaen at dderbyn datganiadau o ddiddordeb o bob rhan o’r Brifysgol. Rydym yn mawr obeithio y bydd y fenter hon yn helpu i ddatblygu cyfoeth o gyfleoedd newydd i gyfnewid gwybodaeth a bydd staff CCS ar gael i roi cyngor drwy gydol y broses er mwyn hwyluso a chefnogi’r cysylltiadau newydd hyn”.

Rydym yn argymell bod unrhyw un sydd am wybod mwy am y cyfle cyffrous hwn yn mynd i:
http://www.aber.ac.uk/cy/ccs/staff-students/funding/sip/ neu’n cysylltu ag Adrian Harvey, Swyddog Sgiliau a Menter, y Gwasanaeth Masnacheiddio ac Ymgynghori (avh@aber.ac.ukmailto:avh@aber.ac.uk / 01970 622368).

Nifer cyfyngedig o leoliadau sydd ar gael a gofynnwn i chi ddatgan diddordeb cychwynnol mewn lleoliad SIP erbyn 16 Mawrth 2012. Sylwch nad hwn yw’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau llawn, dim ond ar gyfer datgan diddordeb cychwynnol yn y cyfle hwn. Gallwch gyflwyno ffurflenni cais llawn yn ddiweddarach. Rydym yn gwahodd ceisiadau gan staff yr adrannau academaidd neu’r adrannau gwasanaeth.

Bydd panel, sy’n cael ei gadeirio gan y Gwasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynghori, yn adolygu’r ceisiadau a disgwylir cynnal y lleoliadau rhwng mis Ebrill a mis Awst 2012.

Rhagor o wybodaeth:

Mae’r Rhaglen Cyd-ddealltwriaeth Strategol (SIP) yn gweithredu ar draws Cymru gyfan. Mae pob un o’r 11 sefydliad addysg uwch yn rhan o’r fenter sy’n cael ei harwain gan Brifysgol Morgannwg.

AU5612