Cangen Aberystwyth o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Dr Anwen Jones, Cadeirydd Cangen Aberystwyth o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
26 Ionawr 2012
Cyfarfu Pwyllgor Cangen Prifysgol Aberystwyth o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am y tro cyntaf ddydd Mercher 25 Ionawr.
O dan gadeiryddiaeth Dr Anwen Jones mae hwn yn gam pwysig yn natblygiad cynllunio darpariaeth academaidd y Brifysgol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae Dr Anwen Jones yn Gyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth ac fe’i penodwyd yn gadeirydd ar Gangen Prifysgol Aberystwyth o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym mis Rhagfyr 2011. Mae Dr Jones wedi ymwneud â nifer o brosiectau a ddeilliodd o ddyddiau cynnar sefydlu’r Coleg gan gynnwys sefydlu’r gwe-gyfnodolyn Gwerddon a sefydlu modiwlau cydweithredol mewn sgriptio. Hi yw awdur y gyfrol National Theatres in Context (GPC 2007) a golygydd, Wil Sam, Dyn y Theatr (Gwasg Carreg Gwalch, 2009).
Dywedodd Dr Jones “Mae hi yn fraint ac yn gyfle i arwain y Gangen mewn cyfnod cyffrous yn hanes datblygiad Addysg Uwch cyfrwng Cymraeg ac yr wyf am sicrhau y bydd y Gangen yn weithgar, yn greadigol ac yn datgan pwysigrwydd ei rôl mewn perthynas â’r Coleg ond hefyd mewn perthynas â’r Brifysgol ei hun.”
Mae Cangen y Brifysgol o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi’i lleoli yng Nghanolfan Gwasanaethau’r Gymraeg ac mae ganddi Swyddog Cangen sy’n gweithio fel cydlynydd darpariaeth Gymraeg ar ran y Coleg yn Aberystwyth. Gwaith y Gangen yw cefnogi adrannau academaidd i ddatblygu darpariaeth ac adnoddau drwy gyfrwng y Gymraeg, a sicrhau bod y Brifysgol yn cymryd mantais lawn o’r cyfleoedd newydd a chyffrous mae’r Coleg Cymraeg yn eu cynnig.
Bydd Pwyllgor y Gangen yn craffu ar y gweithgaredd hwn ac yn goruchwylio Strategaeth y Brifysgol ar ddarparu drwy’r Gymraeg. Mae cyfraniad y myfyrwyr yn bwysig i’r Gangen a byddant yn cael eu cynrychioli ar y Pwyllgor drwy aelodaeth Llywydd UMCA a chynrychiolwyr o blith y myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig sy’n astudio drwy’r Gymraeg.
Mae’r Brifysgol yn gweithio mewn partneriaeth â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a sefydlwyd yn Ebrill 2011, a’i amcan yw hyrwyddo dysgu ac addysgu drwy greu cyfleoedd cyfrwng Cymraeg mewn Addysg Uwch. Nid yw’r Coleg wedi’i leoli mewn un man daearyddol, ond yn hytrach, mae’n gweithio mewn partneriaeth â Sefydliadau Addysg Uwch Cymru.
Derbyniodd y Brifysgol gyllid gan y Coleg yn 2011-12 i ddatblygu rhychwant o brosiectau i ddatblygu adnoddau dysgu ac addysgu mewn adrannau academaidd; ysgoloriaethau israddedig ac ôl-raddedig i fyfyrwyr sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg; a 6 darlithyddiaeth cyfrwng Cymraeg newydd mewn rhychwant o bynciau i ddatblygu’r ddarpariaeth Gymraeg ymhellach.
Am ragor o wybodaeth am waith y Gangen ewch i http://www.aber.ac.uk/cy/cgg/ neu cysylltwch â aberystwyth@colegcymraeg.ac.uk
AU1112