Dathlu llwyddiant dysgu am oes
Jac Forster o ogledd Sir Benfro yn derbyn gwobr dysgwr Cymraeg i Oedolion y flwyddyn gan Dr Malcolm Thomas, Cyfarwyddwr yr Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes.
21 Tachwedd 2011
Yn ddiweddar, dyfarnwyd gwobrau i fyfyrwyr a thiwtoriaid Cymraeg i Oedolion a Dysgu Gydol Oes mewn seremoni wobrwyo arbennig a gynhaliwyd gan Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes Prifysgol Aberystwyth .
Jac Forster o ogledd Sir Benfro, ac yn wreiddiol o Lundain a enillodd wobr dysgwr y flwyddyn Cymraeg i Oedolion. Bu hi'n dysgu Cymraeg mewn dosbarthiadau a gynhelir gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion Canolbarth Cymru yn Aberteifi ers pedair blynedd. Mae hi’n wraig briod a chanddi ddau o fechgyn, ac mae’r Gymraeg bellach yn brif iaith y cartref.
Paula Clarke o Ysbyty Ystwyth dderbyniodd wobr myfyriwr y flwyddyn dysgu gydol oes. Mae Paula, sy’n ddefnyddiwr cadair olwyn, wedi ail-gydio mewn celf am y tro cyntaf ers gadael yr ysgol. Mae hi bellach yn gweithio tuag at Dystysgrif Addysg Uwch mewn Celf a Dylunio.
Rhoddwyd gwobrau hefyd i diwtoriaid a oedd wedi eu henwebu gan eu myfyrwyr am eu gwaith eithriadol.
Dyfarnwyd gwobr tiwtor dysgu gydol oes y flwyddyn i’r artist Angharad Taris o Gei Newydd sy’n dysgu cyrsiau celf a dylunio. Wendy Lewis o Lanymddyfri a dderbyniodd wobr tiwtor Cymraeg i Oedolion y flwyddyn. Mae Wendy, a ddysgodd y Gymraeg fel oedolyn, yn dysgu Cymraeg i oedolion yn ardal Llambed.
Hefyd yn y seremoni dathlwyd llwyddiant 25 o fyfyrwyr a oedd wedi cyrraedd cerrig milltir arbennig ar eu taith ddysgu.
Ymhlith y myfyrwyr hyn roedd dysgwyr Cymraeg i Oedolion a lwyddodd yn arholiadau ‘Defnyddio’r Gymraeg’ CBAC ar lefel Canolradd, Uwch a Hyfedredd, a myfyrwyr a enillodd dystysgrifau addysg bellach ac addysg uwch mewn achyddiaeth, ieithoedd modern, ecoleg maes, Cymraeg cyfoes, ysgrifennu creadigol, a chelf a dylunio.
Cyflwynwyd tystysgrifau a gwobrau i’r myfyrwyr gan Yr Athro Tim Woods, Deon y Celfyddydau, Yr Athro John Grattan, Deon y Gwyddorau, a’r Dr Malcolm Thomas, Cyfarwyddwr yr Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes.