Argyfwng Ardal yr Ewro
03 Tachwedd 2011
Argyfwng Ardal yr Ewro a beth mae’n ei olygu i ni?
Bydd yr Aelod Seneddol Ewropeaidd Derek Vaughan a Phennaeth Swyddfa Wybodaeth y Senedd Ewropeaidd, Michael Shackleton, yn trafod tarddiad yr argyfwng yn Ardal yr Ewro, asesu’r sefyllfa bresennol ac ystyried yr oblygiadau economaidd a gwleidyddol i’r Undeb Ewropeaidd, y Deyrnas Gyfunol a Chymru, mewn gweithdy ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ddydd Gwener 4 Tachwedd.
Mae’r digwyddiad yn cael ei drefnu gan y Ganolfan Astudiaethau Ewropeaidd mewn cydweithrediad gyda Swyddfa Prydain y Senedd Ewropeaidd ac yn cael ei gynnal ym Mhrif neuadd yr Adran Wleidyddiaeth Ryngwladol ac yn dechrau am 2.00 y prynhawn.
Yn dilyn y cyflwyniadau bydd cyfle i aelodau o’r gynulleidfa holi cwestiynau neu wneud sylwadau eu hunain.
Mewn sesiwn ar wahân, bydd Pennaeth Swyddfa Prydain y Senedd Ewropeaidd yn rhoi cyflwyniad ar gyfleoedd gyrfa a lleoliadau gwaith o fewn sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd ac i ymateb i gwestiynau gan fyfyrwyr.
Rhaglen y digwyddiad
14.00 Cyflwyniad a chroeso
14.15 Cyflwyniadau
14.35 Holi ac ateb
15.00 Toriad
15.15 Sesiwn Yrfaoedd a Holi ac Ateb
Am fwy o wybodaeth ewch i http://www.aber.ac.uk/en/ces/new-events/