Prifysgol Aberystwyth yn ymateb i adroddiad gan Fwrdd yr Iaith
Yr Hen Goleg.
28 Hydref 2011
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi croesawu casgliad Bwrdd yr iaith na thorrodd y Brifysgol unrhyw ymrwymiad penodol yn ei Chynllun Iaith cyfredol. Daw hyn yn dilyn cyhoeddi adroddiad y Bwrdd ar recriwtio Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth. Nid yw Cyngor y Brifysgol wedi derbyn yr adroddiad i’w ystyried eto.
Dywedodd Syr Emyr Jones Parry, Llywydd Prifysgol Aberystwyth, “Rydym yn hynod falch ein bod wedi penodi’r Athro April McMahon yn Is-Ganghellor. Ar ei thrydydd diwrnod yn y swydd anerchodd gannoedd o staff, myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr yn Gymraeg ar stondin y Brifysgol yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae hi hefyd wedi rhoi sawl cyfweliad yn Gymraeg yn y cyfryngau, ac mae ei brwdfrydedd a’i hymroddiad tuag at ddysgu’r iaith a natur ddwyieithog y Brifysgol hon yn sylweddol. Mae gennym rôl arbennig i’w chwarae o ran yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymru, ac mae’n elfen rydym yn ei gymryd o ddifrif.
Serch hynny, mae’r Bwrdd yn dadlau bod rôl benodol yr Is-Ganghellor yn golygu y dylai’r ymgeisydd fedru siarad Cymraeg cyn cael eu penodi. Cytunodd Cyngor y Brifysgol y byddai gofyniad gorfodol i fedru siarad Cymraeg ymlaen llaw yn cyfyngu’r maes, pan mai prif amcan y Brifysgol – ac mae wedi llwyddo yn hynny o beth – oedd denu ymgeisydd eithriadol â’r gallu i arwain y Brifysgol drwy’r heriau mae’n eu hwynebu.”
AU26211