Agor cae chwarae 3G

Yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth yn agor y maes 3G pob tywydd newydd yng nghwmni Frank Rowe, Cyfarwyddwr y Ganolfan Chwaraeon a Alun Minifey, Swyddog Gweithgarethau Myfyrwyr yr Undeb.

Yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth yn agor y maes 3G pob tywydd newydd yng nghwmni Frank Rowe, Cyfarwyddwr y Ganolfan Chwaraeon a Alun Minifey, Swyddog Gweithgarethau Myfyrwyr yr Undeb.

28 Hydref 2011

Canolfan Chwaraeon Prifysgol Aberystwyth yn agor cyfleuster hyfforddi 3G ar gyfer pob tywydd

Mae maes hyfforddi pob tywydd 3ydd cenhedlaeth sy’n cynnwys pad sioc a llenwad rwber wedi ei agor yn swyddogol gan Ganolfan Chwaraeon Prifysgol Aberystwyth.

Cafodd y maes ei gynllunio er mwyn ail-greu nodweddion caeau chwarae go iawn a lleihau'r peryg o anaf wrth daro’r ddaear, ac mae’n cynnwys llifoleuadau, yn 40m x 23m o faint ac wedi ei leoli drws nesa i’r maes pob tywydd ar Gampws Penglais. 

Mae’n cynrychioli buddsoddiad o £175,000 ac yn ddelfrydol ar gyfer ymarfer i chwaraewyr rygbi a phêl droed.

“Mae hyn yn newyddion gwych ar gyfer y Brifysgol ac i’r gymuned leol,” dywedodd Frank Rowe, Cyfarwyddwr Canolfan Chwaraeon y Brifysgol. “Bydd yn darparu maes hyfforddi o safon ar gyfer chwaraeon cyswllt drwy gydol y flwyddyn, a bydd hyn yn fantais i’r Brifysgol ac i chwaraewyr rygbi a phêl-droed lleol.”

Ychwanegodd: “Yn ogystal â chymryd archebion er mwyn defnyddio’r maes, mae’r Ganolfan Chwaraeon yn gobeithio trefnu rhaglenni hyfforddiant rygbi a phêl-droed iau a fydd yn cefnogi datblygiad chwaraewyr yn yr ardal. Rydym hefyd yn archwilio’r posibilrwydd o gychwyn cynghrair 5 a 7 bob ochr cystadleuol sy’n boblogaidd iawn ledled Prydain.”

Ychwangeodd Frank Rowe: “Crëodd y trac 2 lôn 400m o safon Olympaidd a adeiladwyd haf diwethaf ofod ar gyfer gosod maes hyfforddi o’r maint yma o flaen y Ganolfan Chwaraeon ac rydym yn hynod falch fod y Brifysgol wedi cefnogi’r adnodd angenrheidiol hwn. Hoffem hefyd ddiolch i’r Undeb Athletau am eu cefnogaeth amhrisiadwy er mwyn gwireddu hyn.”

“Mewn cyfnod lle mae recriwtio myfyrwyr yn mynd yn fwy cystadleuol, mae cyfleuster blaenllaw fel hyn yn hanfodol er mwyn denu myfyrwyr a chyfrannu tuag at eu boddhad. Mae’r Ganolfan Chwaraeon yn cydnabod bod angen ymdrechu i wella cyfleusterau a gwasanaethau ac mae’r prosiect yma’n cyfrannu tuag at hyn.”

Yn ogystal â’r drefn llogi arferol, mae’r Ganolfan Chwaraeon yn barod iawn i gymryd archebion ar gyfer partïon pêl-droed i blant.

Er mwyn llogi’r maes ffoniwch 01970 622280.

AU24311