Y Sefydliad Marchnata Siartredig

Julie Mckeown.

Julie Mckeown.

12 Hydref 2011

Mae Ysgol Reolaeth a Busnes Prifysgol Aberystwyth wedi ei hachredu fel Canolfan Astudio ar gyfer Y Sefydliad Siartredig Marchnata i ddysgu cymwysterau sydd yn cael eu cydnabod ar draws y byd mewn marchnata.

O wanwyn 2012 bydd busnesau yng Nghymru a thu hwnt yn medru astudio am y cymwysterau yma wyneb yn wyneb ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bydd cyrsiau dechreuol yn cael eu cynnig yn ogystal â’r Dystysgrif Broffesiynol, Diploma Proffesiynol a dwy ddiploma arbenigol mewn Marchnata Croeso a Thwristiaeth, a Marchnata Digidol. 

Bydd y dysgu yn cael ei wneud gan arbenigwyr yn eu maes ac sydd yn brofiadol iawn ym myd busnes a’r byd academaidd. Bydd modiwlau yn cael eu dysgu ar ffurf penwythnosau dwys neu ddosbarthiadau nos er mwyn apelio at y trawstoriad eangaf posibl o fusnesau.

“Mae hyn yn gyffrous iawn i ni ac rydym yn gobeithio y bydd llawer o fusnesau yn astudio am eu cymwysterau SSM  er mwyn eu galluogi i gystadlu ar delerau mwy cyfartal. Eisoes mae ein myfyrwyr yn credu taw Aber yw’r lle gorau yng Nghymru i astudio, felly rydym o’r farn fod gennym ni lawer i’w gynnig i fusnesau hefyd”, dywedodd Julie McKeown, y Cyfarwyddwr Cwrs.

Ychwanegodd Richard Houdmont, Cyfarwyddwr Cymru y Sefydliad Marchnata Siartredig: “Un o nodweddion marchnatwr proffesiynol yw bod ganddo ef neu hi’r cymwysterau perthnasol. Yn y sector addysg rydym yn sicrhau taw dim ond sefydliadau sydd yn cyrraedd ein safonau uchel ni sydd yn cael cynnig ein cymwysterau ni, ac rwy’n falch iawn bod Prifysgol Aberystwyth bellach yn Ganolfan Astudio   Achrededig SSM.”

Y cynllun yw cynnal y cyrsiau cyntaf yn ystod gwanwyn y flwyddyn nesaf (2012). Mae mwy o wybodaeth ar gael oddi wrth Julie McKeown jum1@aber.ac.uk.

AU24111