Hwylio ymlaen
Mrs Ann Robertson (eistedd) ac aelodau o Glwb Hwylio’r Brifysgol.
28 Medi 2011
Dywedodd Mrs Robertson, sydd yn byw yn Aberystwyth “Mae Aber wedi bod yn rhan o’m mywyd ar hyd yr amser. Bu fy rhieni, fy merch a finnau yn astudio yma. Rwy’n falch o allu gwneud y cyfraniad hwn nawr.”
Cafodd Mrs Robertson ei chroesawu i’r Tŷ Cwch yn Aberystwyth gan Swyddog Gweithgareddau Myfyrwyr yr Undeb, Alun Minifey, a Chomodor y Clwb Hwylio, Tom Davies.
Cyflwynwyd blodau i Mrs Robertson gan aelodau o’r clwb hwylio a diolchwyd iddi am ei haelioni.
Mae gan y clwb oddeutu 40 o aelodau a bydd y rig, sydd nid yn annhebyg i’r rhai sydd yn cael eu defnyddio gan y Bad Achub, yn caniatáu i’r aelodau ymarfer hwylio yn ddiogel o amgylch Bae Ceredigion.
Ychwanegodd Alun Minifey; “Mae’r Undeb a’r Undeb Athletau yn hynnod ddiolchgar i Mrs Robertson am ei haelioni. Mae hyn yn mynd i alluogi’r clwb i ddatblygu a gwireddu ei botensial. Hoffwn ddiolch i Mrs Robertson unwaith eto, rhydym mod ddiolchgar am ei chefnogaeth.”
Mae Julian Smyth, Cyfarwyddwr Datblygu Aberystwyth, hefyd wrth ei fodd gyda haelioni Mrs Robertson: “Mae Ann yn cynrychioli’r gorau o deulu estynedig alumni Aber. Mae ei brwdfrydedd hi ei hunan dros hwylio yn golygu ei bod wedi gwneud cyfraniad gwirioneddol a hir-dymor o ran diogelwch myfyrwyr sydd yn hwylio a rhywbeth a fydd o fudd i genedlaethau o forwyr ifanc am flynyddoedd i ddod. Rydym oll yn ddiolchgar iawn i Ann am ei chefnogaeth.”