Neuadd breswyl newydd
Rosser G.
20 Medi 2011
Mae neuadd breswyl newydd wedi cael ei hagor gan Brifysgol Aberystwyth fel rhan o’r paratoadau ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd.
Cafodd Bloc G Rosser ei hagor heddiw, ddydd Mawrth 20 Medi, gan yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth.
Mae’r datblygiad cyffrous hwn yn fuddsoddiad £3m ac yn darparu llety en-suite ar gyfer chwedeg o fyfyrwyr ôl-raddedig ynghyd â chwe chegin/ystafell fwyta/ystafell deledu ac un ystafell olchi dillad.
Mae’r neuadd newydd wedi ei lleoli ar gampws Penglais o fewn tafliad carreg i nifer o adnoddau canolog y Brifysgol, ac mae’n cynnig llety helaeth modern a fydd yn cwrdd â disgwyliadau myfyrwyr ôl-raddedig o bob rhan o’r byd.
Derbyniodd yr adeilad newydd radd “Da Iawn” dan gynllun BREEAM (Building Research Establishment Environmental Assessment Method) am ei ddyluniad, ei adeiladwaith a’i weithrediad cynaliadwy.
Dywedodd yr Athro April McMahon: ‘Mae’n bleser mawr gen i agor y datblygiad newydd hwn sydd yn tanlinellu ymrwymiad y Brifysgol i’r profiad myfyrwhyr ac i gynaliadwyedd a’r amgylchedd. Mae’n fuddsoddiad sylweddol mewn llety myfyrwyr ac yn rhan o strategaeth tymor hir ar gyfer datblygu llety a fydd yn gwireddu uchelgais ehangach y Brifysgol o ran dysgu, addysgu a phrofiad myfyrwyr.”
Bydd uwchraddedigion newydd yn symud mewn i Rosser G o ddydd Gwener 23 Medi 2011 ymlaen. Cam nesaf strategaeth llety Prifysgol Aberystwyth fydd datblygu llety hunan arlwyo ar gyfer 1,000 o fyfyrwyr ar safle tu ôl i Pentre Jane Morgan. Yn amodol ar dderbyn caniatâd cynllunio, fe ddylai’r rhan gyntaf o’r datblygiad hwn fod yn barod ar gyfer blwyddyn academaidd 2013/14.
Bu’r Brifysgol yn gweithio gyda’r Pensaer o Aberystwyth, Dilwyn Roberts, ac Asbri Planning ar ddyluniad yr adeilad. Cafodd ei gynhyrchu a’i adeiladu ar y safle gan Thurston Building Solutions o Wakefield. Cwmni lleol arall, Afan Construction, fu’n gyfrifol am y maes parcio a gwaith allanol arall.
AU22711