Celf carchar
Hongian yr arddangosfa
20 Medi 2011
Celf gan Droseddwyr & Chleifion Diogel: Arddangosfa Koestler 2011 DG
Mae Marie Fox, ynad a myfyrwraig o Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth, yn gyd-guradur ar arddangosfa o Gelfyddyd Carcharorion sydd yn agor yn y Royal Festival Hall yn Llundain yr wythnos hon.
Yn gyfareddol ei thema a hynod ei ansawdd celfyddydol, Arddangosfa Gwobrau Koestler yw llwyfan blynyddol y DU i gelfyddydau gweledol, ffilm, cerddoriaeth a llên gan garcharorion ac eraill mewn lleoliadau diogel.
Mae arddangosfa yn agor ddydd Mercher 21 Medi yng Nghanolfan Southbank Llundain ac yn rhedeg o ddydd Iau 22 Medi tan dydd Sul 20 Tachwedd.
Mae wedi ei churadu gan grŵp o ynadon, ac mae’n ymchwiliad arloesol o farnu, celfyddyd a throsedd.
Mae’n bartneriaeth rhwng Ymddiriedolaeth Koestler, Canolfan Southbank a Chymdeithas yr Ynadon. Mae Ymddiriedolaeth Koestler yn elusen hir-sefydledig sy’n hybu llwyddiannau cadarnhaol troseddwyr drwy wobrwyo, arddangos a gwerthu eu gweithiau celf.
Wedi’i dewis gan Gymdeithas yr Ynadon, derbyniodd Marie dair wythnos o hyfforddiant ar sut i guradu arddangosfa, a oedd yn cynnwys ymweliadau ag orielau, a mewnbwn gan weithwyr proffesiynol yn y celfyddydau.
Casglwyd gweithiau celf o bob cwr o’r Deyrnas Unedig ynghyd yng nghanolfan yr Ymddiriedolaeth, ger Carchar Wormwood Scrubs yng ngorllewin Llundain.
Yn ogystal â bod yn gyfrifol am y dewis, bu Marie’n ymwneud â’r gwaith o gynllunio’r arddangosfa a hefyd am ysgrifennu sylwadau i’w harddangos ochr yn ochr â’r gweithiau celf.
Marie oedd yr unig gynrychiolydd o Gymru, a bu’n helpu hefyd gyda threfniadau’r dasg o hongian y lluniau.
Ar ôl clywed y newydd am ei lle ar y panel, dywedodd 'er mod i’n teimlo mod i mewn sefyllfa braidd yn anghyfarwydd ar hyn o bryd, rwyf wrth fy modd mod i’n un o ddeg yn unig a ddewiswyd o blith yr holl geisiadau ledled Prydain. Mae Cymru ar y map!!'
Mae arddangosfa Gwobrwyau Koestler 2011 yn llwyfannu celfyddyd gan droseddwyr, cleifion mewn sefydliadau diogel a charcharorion.
Mae staff Ymddiriedolaeth Koestler a thîm curadurol y Royal Festival Hall wedi bod yn ‘ysbrydoliaeth’ i Marie, meddai. Teimla bod y profiad wedi herio’i ‘gwerthfawrogiad a’i chysyniad o gelfyddyd’, ac nad yw hyn yn beth gwael gan ei bod yn credu bod ei ‘hyder i ddadlau o blaid darnau yr oedd am eu cynnwys yn yr arddangosfa wedi cynyddu bob dydd’.
Daeth Marie yn ynad wedi iddi symud i Aberystwyth ddeuddeng mlynedd yn ôl. “Roeddwn yn awyddus i wneud gwaith gwirfoddol gwahanol i’r hyn yr oeddwn wedi bod yn ei wneud yn Sir Nottingham. Pan ymddangosodd hysbyseb ym mhapur lleol y WI yn gofyn ‘A ydych yn Ddeunydd Ynad?’, fe ymatebais, mynd drwy’r broses gyfweld a chael fy mhenodi.”
“Bûm yn ymchwilio i ddatblygiad carchardai i ferched gan nad oes un ganom yma yng Nghymru (dysgais hyn fel rhan o’r hyfforddiant ar gyfer bod yn ynad) ond roeddwn am wneud rhywbeth gwahanol. Gan ym mod wedi ymddiddori mewn orielau, amgueddfeydd, eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cadw a English Heritage, penderfynais astudio Hanes Celf. Taith ryfeddol gan ym mod yn 60 pan es i i Ruskin!!”, ychwanegodd.