Cefnogi Sgiliau Adnewyddol
19 Awst 2011
Tra bo pryderon am gost ariannol ac amgylcheddol tanwydd ffosil ar gynnydd, mae Prifysgol Aberystwyth wedi llofnodi cytundeb fframwaith cydweithredol cyffrous i ddarparu hyfforddiant arloesol i’r sector ynni adnewyddol.
Sicrhawyd y cytundeb fframwaith rhwng Sgiliau Ynni a Chyfleustodau, sef y Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer y diwydiannau nwy, ynni, rheoli gwastraff a dŵr ac Ysgol Rheolaeth a Busnes y Brifysgol drwy gwblhau proses o dendro cystadleuol ar ran Canolfan Sgiliau Aber-Bangor.
Er mwyn sicrhau datblygu hyfforddiant priodol, mae’r Ysgol Rheolaeth a Busnes wedi creu pecyn rheoli prosiect wedi’i deilwra’n arbennig ac sy’n cwmpasu’r sgiliau penodol sydd eu hangen ar gyfer rheoli prosiectau yn y sector adnewyddol. Canlyniad cydweithio rhwng yr Ysgol, arbenigwr rheol prosiectau, Gary Straw, a’r ymgynghoriaeth amgylcheddol ac ynni, William McRae, yw’r prosiect. Mae’r prosiect wedi’i anelu at weithwyr y sector sy’n byw yng Nghymru, gan geisio delio â bylchau cyfredol mewn sgiliau ac anghenion sgiliau’r dyfodol yn gysylltiedig â sector ynni adnewyddadwy mwy sefydledig.
Dywedodd yr Athro Steven McGuire, Athro Rheolaeth yn yr Ysgol Rheolaeth a Busnes ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Yn rhy aml caiff darpariaeth ei datblygu mewn modd ynysig nad yw’n ystyried anghenion a gofynion ymarferwyr. Yr hyn sy’n gyffrous am y fframwaith cydweithredol hwn yw bod y cyfuniad o wybodaeth oddi mewn i Addysg Uwch ac arbenigedd diwydiannol gan Gyngor Sgiliau Sector yn dod at ei gilydd i lenwi bylchau sgiliau gweithwyr mewn rhan o’r economi sy’n tyfu ac sy’n gynyddol bwysig. Rydym wrth ein boddau ein bod yn cydweithio â Gary Straw a William McRae er mwyn darparu’r hyfforddiant”.
I helpu i sbarduno datblygiad y diwydiant ynni adnewyddadwy yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru, drwy eu Cronfa Blaenoriaethau Sector (rhaglen a gefnogir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop) wedi darparu cyllid i Sgiliau Ynni a Chyfleustodau a’u partneriaid Amgylchedd Adeiledig.
Gall sefydliadau cymwys dderbyn cyllid cyfatebol ar gyfer cyfranogwyr unigol ar unrhyw agwedd o’r hyfforddiant a gynhwysir yn y prosiect Uwchsgilio ac Amlsgilio, gyda hyfforddiant ar gael ar draws Cymru gyfan.
Anogir unigolion a sefydliadau sydd â diddordeb mewn derbyn rhagor o fanylion am yr hyfforddiant sydd ar gael i gysylltu ag Adrian Harvey, Swyddog Sgiliau a Menter Prifysgol Aberystwyth (01970 622368 / avh@aber.ac.uk) neu Nigel Williams, Rheolwr Prosiect Sgiliau Ynni a Chyfleustodau (07730529801 / nigel.williams@euskills.co.uk).