Cystadleuaeth frwd am lefydd Aberystwyth

Prifysgol Aberystwyth

Prifysgol Aberystwyth

18 Awst 2011

Mae’r nifer o geisiadau llwyddiannus ar gyfer Prifysgol Aberystwyth wedi mynd tu hwnt i’r disgwyl eleni.

Cyhoeddodd y Brifysgol yn gynharach y flwyddyn hon na fyddai’n rhan o’r system glirio gan fod lefel y ceisiadau mor uchel.

Dywedodd Yr Athro Martin Jones, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Prifysgol Aberystwyth yw’r unig sefydliad yng Nghymru i beidio bod yn rhan o’r broses glirio sy’n adlewyrchiad o’r safon ardderchog a’r rhychwant eang o gyrsiau gradd sydd ar gael yn y Brifysgol.  Mae hyn, ynghyd â’r holl gyfleusterau gwych a’r croeso cynnes gan y dref, yn profi i fod yn ddewis poblogaidd ac yn adeiladol ar gyfer profiad myfyrwyr.

“Ddoe, cyhoeddwyd bod y Brifysgol ar frig y gynghrair o ran boddhad myfyrwyr ac mae hyn yn amlwg yn cael ei adlewyrchu gan y nifer o geisiadau gan ddarpar fyfyrwyr.”

Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i Aberystwyth beidio a bod yn rhan o’r broses glirio, gyda’r dair blynedd ddiwethaf yn torri record y flwyddyn gynt ac yn mynd tu hwnt i dargedau.

Dywedodd Dr Hywel Davies, Cyfarwyddwr Derbyn a Denu Myfyrwyr: “Mae eleni yn flwyddyn anhygoel ar gyfer ceisiadau myfyrwyr.  Rydym wedi gweld cynnydd o 16.6% ar y llynedd gyda’r nifer o ddisgyblion Lefel A sy’n cwrdd â’n meini prawf yn llawer uwch.  Dim ond i’r myfyrwyr sydd yn cwrdd ag amodau’r cynnig yn llawn, hynny yw, dim ond y rhai sydd yn cyflawni’r graddau angenrheidiol neu yn uwch y gallwn gynnig lle.

Gyda’r Brifysgol yn awr yn llawn ar gyfer 2011, anogir ymgeiswyr ar gyfer y flwyddyn academaidd 2012/13 i ymweld â’r Brifysgol ar y Diwrnod Agored nesaf a gynhelir ddydd Mercher 14 Medi a dydd Sadwrn 15 Hydref 2011. Ceir manylion am y Diwrnod Agored ar wefan y Brifysgol yma: http://www.aber.ac.uk/cy/open-days/