Ysgolheigion Fulbright

Ysgolheigion Fulbright gyda Dr Marc Welsh, Cyfarwyddwr Academaidd Sefydliad Haf Fulbright a Chris Neville, Swyddog Rhyngwladol

Ysgolheigion Fulbright gyda Dr Marc Welsh, Cyfarwyddwr Academaidd Sefydliad Haf Fulbright a Chris Neville, Swyddog Rhyngwladol

02 Awst 2011

Fel rhan o Sefydliad Haf newydd ac arloesol, mae wyth o fyfyrwyr disgleiriaf yr Unol Daleithiau yn ymweld â Phrifysgol Aberystwyth ac yn cael eu cyflwyno i ddiwylliant, hanes, gwleidyddiaeth a thirwedd Cymru.

Apwyntiodd Comisiwn Fulbright UD-DU dair prifysgol i gynnal Sefydliad Haf Fulbright cyntaf Cymru ac mae’r myfyrwyr eisoes wedi cychwyn ar eu taith drwy’r wlad gan ddechrau ym Mhrifysgol Caerdydd. Teithiodd yr wyth o’r brif ddinas i Brifysgol Bangor lle y bu iddynt aros am bythefnos cyn cyrraedd Aberystwyth ar gyfer dwy wythnos olaf eu taith.

Yn ystod eu cyfnod yn Aberystwyth, byddant yn edrych ar Gymru a’i pherthynas â’r byd ehangach ac yn dechrau ystyried sut mae’r wlad yn paratoi i wynebu sialensiau’r dyfodol.

Dywedodd Dr Marc Welsh, Cyfarwyddwr Academaidd Sefydliad Haf Fulbright: “Mae’r cysylltiadau rhwng Cymru ac UDA yn ehangach nag y mae pobl yn sylweddoli, fel yr adlewyrchir yn Amgueddfa Ceredigion. Mae hon yn ffordd wych o ddatblygu cysylltiadau sy’n bodoli’n barod drwy roi cyfle i fyfyrwyr israddedig i ddysgu am wahanol rannau o Gymru drwy eu profi eu hunain. Rydym yn gobeithio’n fawr eu bod wedi cael amser gwych yma ac y byddant yn dychwelyd adref gyda gwir werthfawrogiad o natur gymhleth Cymru fodern, gydag awch i gael dychwelyd rhyw ddydd.”

Cafodd yr wyth myfyriwr israddedig eu dewis mewn cystadleuaeth o Brifysgolion ledled UDA, o Seattle i Dde Fflorida. Fe’u croesawyd i Gymru mewn derbyniad arbennig yn y Senedd gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones. Pwysleisiodd y Prif Weinidog y cysylltiadau hanesyddol rhwng Cymru a’r UD a dymunodd y bydd y myfyrwyr yn cael ymweliad pleserus a chofiadwy.

“Mae’n anodd credu bod ein taith bron ar ben,” dywedodd Jordan Sharpiro o Brifysgol Rochester, Efrog Newydd. “Dwi’n teimlo’n ofnadwy o lwcus o fod wedi cael fy newis i gymryd rhan yn y rhaglen hon ac yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cyfrannu tuag at greu profiad gwych. Rydym wedi dysgu am hanes a diwylliant Cymru yn y mannau hynny ble mae hyn oll yn ac wedi digwydd. Fedrai ddim aros i fynd adre a rhannu fy ngwybodaeth o Gymru ac annog eraill i ymweld â’r wlad er mwyn gweld ei phrydferthwch a deall ei hanes.”

Mae pob rhan o’r cwrs yn cynnwys gwaith cwrs academaidd, gan ddefnyddio ymchwil ac arbenigeddau addysgu byd-enwog pob un o’r tair prifysgol. Hefyd mae’r myfyrwyr yn mynychu digwyddiadau diwylliannol ac ymweld â safleoedd hanesyddol er mwyn deall rhanbarthau unigryw Cymru.

AU18811