Buddsoddi yn y dyfodol

Colette Williams a raddiodd o’r Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes a’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu

Colette Williams a raddiodd o’r Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes a’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu

28 Gorffennaf 2011

Roedd  Colette Williams, mam i wyth o blant, wrth ei bodd yn derbyn ei gradd BA (Anrhydedd) mewn Addysg a Drama (2 ii) ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ddiweddar.

Fodd bynnag, pwysleisiodd Colette, myfyriwr hŷn o’r Drenewydd nad dyma oedd diwedd y daith o bell ffordd o ran ei hastudiaethau.

Ym mis Awst bydd yn dechrau ar gwrs dwys  am bum wythnos i astudio tuag at Dystysgrif TESOL ar gyfer dysgu Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill, ac mae hi wedi ei derbyn ar gwrs TAR ym Mhrifysgol Cymru, Casnewydd ym mis Medi.

Roedd  Colette  wedi synnu ei gŵr gyda’i phenderfyniad i  wneud cais i astudio am radd yn ôl yn 2008, ond roedd hi’n cael ei chymell, meddai, gan yr angen am ddod o hyd i gyfeiriad clir mewn bywyd. Roedd o hefyd yn gyfnod pan fu iddi golli sawl aelod o’i theulu.

“ Bu farw fy nhad ychydig fisoedd yn gynharach,” eglurodd Colette. “Mae’n debyg y gallech chi ddweud fy mod i’n chwilio am ddechreuad newydd.  A nawr fy mod i wedi cymryd y cam yna i fynd nôl i fyd addysg, rwy’n teimlo yn hollol effro i bob math o bosibiliadau.”

Cofrestrodd Colette ar gyfer ei chwrs gradd pan oedd ei phlentyn ieuengaf ond yn 9 mis oed a’i phlentyn hynaf yn 14. Mae hi a’i gŵr yn ofalwyr llawn amser i ddau o’u plant, sydd ag anawsterau dysgu dwys.

Roedd y ffaith bod ei thad wedi llwyddo i newid cyfeiriad ei yrfa yn llwyr pan roedd yn 40 wedi calonogi Colette yn fawr. “ Roedd fy nhad yn beiriannydd morol wnaeth gwblhau gradd mewn nyrsio pan oedd yn 40,” eglurodd Colette, “rwy’n credu’n gryf bod gan bawb y gallu i gyflawni ei botensial, waeth beth fo’i oedran.”

Pwysleisia Colette mai cefnogaeth ei theulu– ac yn arbennig ei gŵr- ynghyd ag ymdeimlad cryf o ymrwymiad ar ei rhan hi sydd wedi sicrhau llwyddiant iddi. Gyda wyth o blant i gadw llygad arnynt, bu  ambell i sialens i’w oresgyn  dros y tair blynedd y bu’n teithio o’r Drenewydd i Aberystwyth, a chafodd gyfnod pryderus iawn pan ddioddefodd  un o’i meibion anafiadau difrifol i’w asgwrn cefn.

Tra bo Colette yn falch iawn o’i llwyddiant personol, fel mam, yr effaith bositif mae astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi’i gael ar ei phlant sy’n rhoi’r boddhad 

AU18311