Urddo Yr Athro Christianne Glossop yn Gymrawd
Yr Athro Christianne Glossop
15 Gorffennaf 2011
Heddiw, ddydd Gwener 15 Gorffennaf 2011, cyflwynir Yr Athro Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol i Lywodraeth Cymru, yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth.
Cafodd ei phenodi i rôl Prif Swyddog Milfeddygol i Lywodraeth Cymru yn 2005 a hi sy’n gyfrifol am ddatblygu a gweithredu'r strategaeth a pholisi iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru.
Yn 2007 penodwyd yr Athro Glossop yn Athro er Anrhydedd yn y Coleg Milfeddygol Brenhinol, Llundain. Ers ei hapwyntiad fel Prif Swyddog Milfeddygol i Lywodaeth Cymru, mae’r ffocws wedi symud tuag at ddysgu iechyd anifeiliaid a datblygiad polisi lles.
Mae wedi datblygu a gweithredu nifer o bolisiau sydd wedi gosod lles anifeiliaid yng Nghymru ar y blaen i’r sefyllfa mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, gan gynnwys cyhoeddi canllawiau lles i gwn, cathod a chwningod, y gwaharddiad yn 2010 ar y defnydd o goleri sioc ar gwn a chathod, a gwaith sydd yn parhau ar adolygu’r ddeddfwriaeth ar fridio cwn bach.
Cafodd y gefnogaeth a roddodd i’r sector da byw yn ystod y blynyddoedd diweddar gydnabyddiaeth arbennig. Ei gweledigaeth yw “gweld gwaredu'r Diciâu o Gymru unwaith ac am byth” ac mae wedi bod yn gadarn wrth yrru’r strategaeth i waredu’r haint mewn gwartheg yn ei blaen. Am hyn dyfarnwyd iddi Wobr y Dywysoges Frenhinol gan Gymdeithas Frenhinol Ffermwyr Llaeth Prydain yn 2009, ac yn yr un flwyddyn roedd yn gyd-enillwyr gwobr Farming Champion y Farmers Weekly gydag Elin Jones, y cyn Weinidog Materion Gwledig.
Bydd yr Athro Christianne Glossop yn cael ei chyflwyno gan yr Athro Will Haresign, Dirprwy Gyfarwyddwr Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, am 11.00 o’r gloch fore Gwener 15 Gorffennaf.
Mae’n un o saith Cymrawd fydd yn cael eu hurddo gan Brifysgol Aberystwyth yn ystod Seremonïau Graddio 2011 sydd yn cael eu cynnal ar y 12fed, 13eg, 14eg a’r 15fed o Orffennaf.