Dosbarth Cyntaf i Brentis
Iwan Bryn James
14 Gorffennaf 2011
Mae Iwan Bryn James yn un o’r myfyrwyr sy’n graddio eleni gyda gradd Dosbarth Cyntaf yn y Gymraeg ar ôl dilyn cynllun astudio rhan amser y Radd Allanol Drwy Gyfrwng y Gymraeg.
Rheolwr Uned Cadwraeth Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw Iwan. Ymunodd â staff y Llyfrgell ar ôl bwrw prentisiaeth fel Swyddog Cadwraeth, yn gyfrifol am ddiogelu a thrwsio llawysgrifau a chyfrolau gwerthfawr sy’n cael eu cadw a’u harddangos yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Pan benderfynwyd trosglwyddo llawysgrif fyd- enwog Llyfr Aneurin i’r Llyfrgell yn 2010 bu Iwan ynghlwm wrth y trefniadau i sicrhau ei chadwraeth tymor hir. “Roedd o’n anhygoel i feddwl bod y Gododdin, cerdd hynaf y Gymraeg, yn llythrennol yn fy llaw,” meddai.
Mae Iwan hefyd yn gynganeddwr brwd sydd wedi dod yn fuddugol yng nghystadleuaeth yr Englyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac yn aelod o dîm Talwrn Tafarn y Cwps. Cafodd gyfle i gyflwyno peth o’i waith yn y modiwl ‘Ysgrifennu Creadigol’ fel rhan o’i radd.
Ar ôl bod yn ymwneud â llenyddiaeth Gymraeg mewn ffordd ymarferol am sawl blwyddyn yn rhinwedd ei swydd, penderfynodd Iwan fanteisio ar yr adnoddau oedd ganddo ar stepen ei ddrws yn Aberystwyth a mynd ati i chwilio am gwrs addas. Dechreuodd astudio’n rhan amser yn Adran y Gymraeg nôl yn 2003.
Mae’n hynod falch o fod wedi cyrraedd pen y daith erbyn hyn, a bydd yn derbyn ei radd yn yr un seremoni a’i nai, Rhys Evans, myfyriwr yn y Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddor Daear. “Dwi’n dychmygu mai fel hyn yn union mae rhedwr marathon yn ei deimlo ar ôl croesi’r llinell derfyn!” meddai’n llawen.
Dyfarnwyd hefyd wobr adrannol i Iwan - Gwobr TE Nicholas – am y traethawd gorau. Mae’n rhannu’r wobr hon gyda Manon Wynn Davies wnaeth hefyd raddio gyda Dosbarth Cyntaf.
Dewisodd destun ei draethawd hir wedi clywed darlith ar ‘Loerigion Drws y Nant’ yn Ysgol Haf y Radd Allanol gan gydweithiwr iddo, Arwel Jones, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyhoeddus y Llyfrgell Genedlaethol.
“Ro’n i wedi cael fy magu ynghanol straeon llafar gwych am y’ Lloerigion’, yr uchelwyr bohemaidd, llengar yma o’r ddeunawfed ganrif. Roedd tafarn Drws y Nant yn arfer bod yn rhan o fy nghartref i, Fferm Hywel Dda, Rhydymain, Dolgellau ac yma y byddai’r Lloerigion yn cyfarfod min nos. Ro’n i’n arbennig o falch o’r cyfle i edrych ar hanes fy nghynefin yn y traethawd, “ ychwanegodd Iwan.