Cymeradwyo Cynllun Ffioedd

Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth

Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth

11 Gorffennaf 2011

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi croesawu cyhoeddiad Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru heddiw bod ei chynllun ffioedd ar gyfer 2012/2013 wedi cael ei gymeradwyo.

Meddai yr Athro Noel Lloyd, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth:
“Rwy’n croesawu’r ffaith bod y Cyngor Cyllido wedi derbyn cynllun ffioedd Prifysgol Aberystwyth. Mae’r cynllun yn cwmpasu nifer o fentrau pwysig a fydd yn sicrhau bod profiad y myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cael ei gyfoethogi ymhellach a bod pawb a allai fod yn elwa o Addysg Uwch yn cael eu galluogi i wneud hynny.”

“Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymrwymedig i ehangu cyfleoedd i’w holl fyfyrwyr, i gyfrannu at gyfiawnder cymdeithasol ac i fod yn gallu cynnig pecyn cymorth cadarn sy’n sicrhau bod ein myfyrwyr yn derbyn cefnogaeth ar bob cam o’u hastudiaethau hyd at raddio.”

“Nod y Brifysgol yw cynhyrchu myfyrwyr sydd â’r amrediad sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y byd gwaith, cynnig iddynt gyfleusterau dysgu ac addysgu ardderchog, ac i’w hastudiaethau fod yn cael eu harwain gan staff sy’n rhan o ymchwil o safon byd.”

Yn unol â’r Cynllun Ffioedd, bydd Prifysgol Aberystwyth yn:

• Buddsoddi £1m mewn cynllun bwrsariaeth prawf modd er mwyn darparu cefnogaeth ariannol i fyfyrwyr o gefndir incwm isel.  Bydd oddeutu 1,250 o fyfyrwyr fydd yn cyrraedd Aberystwyth ym Medi 2012 yn elwa o hyn.

• Darparu llefydd ym Mhrifysgol Haf Aberystwyth i oddeutu 80 o bobl ifanc o ardaloedd ble, yn draddodiadol, mae’r nifer sy’n mynychu prifysgolion yn isel.

• Gwella’r gefnogaeth ar gyfer myfyrwyr ag anableddau.

• Buddsoddi yng nghynllun mentora cymheiriaid ar gyfer myfyrwyr y Brifysgol ac yn yr adnoddau technegol er mwyn cefnogi dysgu’n hyblyg.

• Parhau’r buddsoddiadau mewn cyfalaf er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn ennill o’r amgylchedd dysgu ardderchog.

• Datblygu gweithgareddau a fydd yn gwella cyflogadwyedd myfyrwyr gan ddatblygu cynllun gwobrwyo a fydd yn cydnabod gweithgareddau allgyrsiol a darparu mwy o gyfleoedd hyfforddiant gyda busnes a diwydiant.

• Datblygu 'Grŵp myfyrwyr sy'n dysgu â chymorth technoleg' a fydd yn fforwm ar gyfer adborth gan fyfyrwyr ar wasanaethau’r Brifysgol a chynorthwyo ein hadran Gwasanaethau Gwybodaeth wrth brofi technoleg dysgu newydd.

Bydd Cynllun Ffioedd llawn Prifysgol Aberystwyth ar gael ar-lein ar http://www.aber.ac.uk/cy/university/student-fees/ yn fuan.