Ynni bio-màs
Cnwd bio-ynni
19 Mai 2011
Mae IBERS Prifysgol Aberystwyth yn un o’r partneriaid mewn rownd gyllido cynlluniau ymchwil mewn bio-màs sydd wedi eu cyhoeddi heddiw gan ETI (Energy Technology Institute).
Y mwyaf o’r prosiectau yw’r cynllun tair blynedd gwerth £3.28 miliwn ‘Ecosystem Land-Use Modelling’ a fydd yn astudio effaith newid mewn defnydd tir i dyfu cnydau bio-ynni ar storfa garbon y tir ac allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Bydd y prosiect yn datblygu model er mwyn mesur newidiadau mewn lefelau carbon, nitrogen a dŵr yn y pridd, wedi ei gyfuno gyda’r llif o nwyon tŷ gwydr sydd yn deillio o newid defnydd y tir ar gyfer cynhyrchu cnydau bio-ynni.
Bydd categoreiddio a mapio’r data hwn drwy ddefnyddio Sustemau Gwybodaeth Ddaearyddol yn ei gwneud yn bosibl i wneud argymhellion ar ba dechnegau rheoli amaethyddol a chnydau yw’r mwyaf amgylcheddol effeithiol ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd tyfu cnydau bio-ynni.
Mae’r cynllun yn cael ei gydlynu gan y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg (Centre for Ecology & Hydrology) mewn cydweithrediad gyda IBERS Prifysgol Aberystwyth, Forest Research, Prifysgol Aberdeen, Prifysgol Caeredin, Prifysgol Southampton a Phrifysgol Efrog.
Yn ôl adroddiad HMG DECC 2050 Pathways Analysis a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2010, gallai Bio-màs domestig sydd wedi cael ei dyfu yn gynaliadwy ym Mhrydain, ddarparu hyd at 10% o anghenion ynni'r Deyrnas Gyfunol erbyn 2050 a gwneud cyfraniad sylweddol at leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.