Gwneud Gwahaniaeth – Fideo-gynadledda
Mr Geoff Constable yn fideogynadledda gyda chydweithiwr
16 Mai 2011
Ar ddydd Llun 16eg a dydd Iau 19eg o Fai bydd aelodau o’r tîm Gwasanaethau Gwybodaeth yn cynnal ‘sesiynau blasu’ fideogynadledda ar gyfer holl staff a myfyrwyr y Brifysgol.
Dros y ddeuddydd yma bydd dwy o stiwdios fideogynadledda’r Brifysgol yn cael eu cysylltu a’i gilydd ac â nifer o gyfrifiaduron fydd wedi eu lleoli yma ac acw ar Gampws Penglais a Champws Gogerddan.
Bydd y digwyddiad yn dangos beth yw posibiliadau’r dechnoleg yma o ran galluogi staff i osgoi teithio i gyfarfodydd, a thrwy hynny leihau allgyriadau carbon o danwydd.
Galwch draw i un o’r sesiynau blasu rhwng 11.30 a 15.00 yn stiwdios fideogynadledda y lleoliadau canlynol:
- Llyfrgell Hugh Owen – Campws Penglais
- Adeilad Stapledon - Campws Gogerddan
Dyma gyfle i ddysgu sut i arbed amser, arbed arian ac amddiffyn y blaned, yn ogystal â sut i ddarparu cyfleoedd i’ch myfyrwyr a gweld beth mae pobl eraill yn ei wneud. Croeso ichi alw draw unrhywbryd yn ystod yr amser a nodwyd am baned a sgwrs- does dim angen ichi archebu lle.
AU11011