“Force and World Politics in Our Era”
Yr Athro Robert Jervis
14 Ebrill 2011
Mae’r Athro Robert Jervis o Brifysgol Columbia, Efrog Newydd yn un o’r academyddion mwyaf blaenllaw yn rhyngwladol ac mi fydd yma yn Aberystwyth ar y 5ed o Fai i draddodi Darlith Flynyddol Sefydliad Astudiaethau Rhyngwladol Coffa David Davies.
Ers bron i 40ain mlynedd mae’r Athro Jervis wedi bod yn gawr ym maes cysylltiadau rhyngwladol gan arbenigo ar strategaeth niwclear, seicoleg gwneud penderfyniadau, diogelwch rhyngwladol a’r Rhyfel Oer. Mae hwn yn ymweliad pryn â’r Brifysgol ac mae Aberystwyth wedi bod yn ffodus iawn i sicrhau ei bresenoldeb pan fo prifysgolion eraill wedi methu.
Bydd yr Athro Jervis yn trafod rôl grym yn y byd cyfoes. Yn ôl yr Athro Ken Booth, Cyfarwyddwr y DDMI: ‘O ystyried gweithredu NATO yn Libya, y rhyfel yn Afghanistan, ansefydlogrwydd yn y Dwyrain Canol, Affrica a rhannau eraill o’r byd, does dim gwell amser i wrando ar feddyliau un o feddylwyr mwyaf blaenllaw America am gysylltiadau rhyngwladol.’
Mae gwahoddiad cynnes i aelodau o’r cyhoedd a myfyrwyr i fynychu’r ddarlith gyhoeddus hon. Caiff ei chynnal am 6 yr hwyr ar nos Iau 5ed Mai yn yr Hen Neuadd, Yr Hen Goleg, Stryd y Brenin. Byddwch yno’n gynnar i sicrhau sedd.